Plant Ysgol fod yn greadigol i Gefnogi Gwyl Celf a Llenyddiaeth Castell-Nedd
Mae plant o Ysgol Gynradd Alderman Davies yr Eglwys yng Nghymru wedi bod yn gweithio gydag Eglwys Dewi Sant yng Nghastell-nedd i gynhyrchu gwaith celf gwych fel rhan o Ŵyl Celf a Llenyddiaeth Castell Nedd.
Cafodd y plant eu hysbrydoli gan waith celf ‘14 Stations of the Cross’, gan Will Roberts, sydd i’w gael yn yr eglwys.
Mae’r gwaith celf yn darlunio taith Iesu; trwy gyfrwng siarcol. Arbrofodd y plant gyda thechnegau gwneud marciau megis deor; croeslinellu, smwdio a stippling.
Daeth merch Will Roberts, Sian, draw i’r eglwys ac roedd wrth ei bodd gyda safon uchel gwaith celf y plant.
Dywedodd un o'r disgyblion, “Y rhan orau oedd mynd yn flêr ac archwilio'r siarcol!'
Fe ges i sioc i fy hun, roeddwn i'n meddwl y byddai'n un blob mawr du. Rwy’n hapus iawn gyda’r canlyniad.”
Dywedodd y Parchedig Ganon Lynda Newman, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Afon Nedd, “Cynhyrchodd Wil Roberts orsafoedd y Groes ar gyfer eglwys Dewi Sant, ac roedd Gŵyl Celf a Llenyddiaeth Castell-nedd yn gyfle gwych i’r gymuned fwynhau ei waith.
Gwnaeth y gwaith anhygoel a gynhyrchwyd gan y plant argraff fawr ar ei ferch Sian a mwynhaodd hi siarad â'r plant. Mae gweithio gyda siarcol yn eithriadol o anodd, ond llwyddodd y plant i ddal yr emosiwn amrwd ym mhob un o’r Gorsafoedd.”
Dywedodd Beccie Morteo, Pennaeth Addysg Esgobaeth Llandaf a Mynwy, “Dyma enghraifft wych o sut mae ysgolion yn cofleidio dulliau cwricwlwm newydd. Mae’r cyfuniad o hanes lleol, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE) a gweithgareddau creadigol yn gwneud hwn yn brosiect mor ddifyr sy’n helpu plant yr Henadur Davies i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn y mae Cynefin, neu gynefin, yn ei olygu iddyn nhw.
Mae’r ffordd y mae’r artist, yr ysgol a’r eglwys wedi cydweithio yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei gynnig i’n plant pan fyddwn yn cefnogi ein gilydd.”