Pregeth: Y Tad Richard Peers SMMS
Roedd hi'n ddiwedd haf 1993. John Major oedd y Prif Weinidog. Roeddwn i wedi fy ordeinio'n ddiacon ers ychydig wythnosau ac yn gwasanaethu fel curad yn Middlesbrough, bron mor bell i'r dwyrain ag mae'n bosib mynd yng ngogledd Lloegr.
Dwi ddim yn cofio pryd clywais i hi am y tro cyntaf ond rywbryd y mis Medi hwnnw fe ryddhaodd y Pet Shop Boys eu sengl Go West.
Wel, mae wedi cymryd bron i dri degawd i mi ond o'r diwedd dwi wedi dod i'r gorllewin. A dwi'n falch iawn o fod yma.
Cân hapus yw Go West. A gydag un ymadrodd o’r gân yr hoffwn i ddechrau heddiw. Os cofiwch chi, yn ychwanegol at eiriau'r penillion mae yna arweiniad i bob llinell, un syniad syml ond dwys: Together – Gyda'n Gilydd.
Dyma bregeth ar bedwar gair a thair cân.
Dwi wedi bod yn athro ar hyd fy oes felly fe fydd yna brawf ichi ar y diwedd.
Gyda'n gilydd
Dyw hi ddim yn dda inni fod ar ein pen ein hunain. Ar gychwyn cyntaf y Beibl yn Genesis mae Duw yn gwneud hyn yn glir.
Stori sy’n dweud nad ydyn ni yn unig yw’r Beibl. Mae Duw am i ni, chi a fi, bob un ohonon ni yma berthyn. Bod gyda'n gilydd. Dros y blynyddoedd nesaf, fe fyddwch chi’n fy nghlywed i’n defnyddio tri gair yn aml iawn:
Eich Cadeirlan chi.
A'r gair pwysicaf yw Chi.
Eich cadeirlan chi os ydych chi'n addolwr cyson yma.
Eich cadeirlan chi os ydych chi'n rhan o esgobaeth Llandaf.
Eich cadeirlan chi os ydych chi'n byw yn y ddinas hon, yr esgobaeth hon.
Eich cadeirlan chi os ydych chi'n byw yng Nghymru ac mai hon yw’ch cadeirlan genedlaethol chi.
Eich cadeirlan chi i'r bobl sydd ar y cyfan, efallai, ddim yma heddiw. Ein gwleidyddion a'n harweinwyr busnes. Ein hartistiaid a'n beirdd. Cristnogion mewn eglwysi eraill. Aelodau o grefyddau eraill. Pobl sydd heb ffydd grefyddol .
Gyda'n gilydd.
Gyda'n gilydd dwi'n gobeithio am dri pheth i Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yn gyntaf oll, a’r sail i bopeth a wnawn ni, yw mai man yw hwn ar gyfer gweddi. Ar y safle hwn lle mae gweddi yn fyw ers bron 1500 o flynyddoedd.
Gweddi
Gweddi yw fy ail air inni heddiw.
Mae'r adeilad hardd hwn yma ar gyfer gweddi. Gyfeillion, yn yr esgobaeth hon, fe weddïwn ni drosoch chi. Ie, cylch gweddi, ond dwedwch wrthon ni pan fydd gennych chi rywbeth yr hoffech inni weddïo yn ei gylch. Does dim sut beth â gormod o gyfathrebu. Da chi, cadwch mewn cysylltiad â ni.
O ddydd Llun yr wythnos nesaf, yr 28ain o Dachwedd ymlaen, bydd y Tad Mark, y Fam Jan a minnau yn dathlu Boreol Weddi a’r Ewcharist o ddydd Llun i ddydd Sadwrn am 8 y bore. Byddwn yn falch o'ch gweld. Galwch heibio ar eich ffordd i’r ddinas; gwnewch ymrwymiad i ddod yma un diwrnod y mis neu ymunwch â ni'n gyson wrth inni weddïo dros y ddinas, yr esgobaeth, y genedl.
Gair arbennig i'm chwiorydd a’m brodyr o offeiriaid yn yr esgobaeth, mae yna ymadrodd rhyfedd sy'n cyniwair mai’r Deoniaid yw 'Uwch-offeiriaid’ yr esgobaeth. O gofio’r ail ddarlleniad heddiw dyw hwn ddim yn ymadrodd dwi’n arbennig o hoff ohono. Ond dwi’n credu bod rôl y Deon yn glir. Fy ngwaith i yw eich caru chi;
Nid yn unig fy ngwaith i
ond fy llawenydd i.
Yn ein gweddïau yma rydym yn eich cynnal yn eich gweinidogaethau, gweinidogaeth pawb sydd wedi’i fedyddio.
Fy hoff ddiffiniad i o gariad yw un Simone Weil:
ystyr caru yw rhoi sylw.
Annwyl chwiorydd a brodyr, fe fydda i’n rhoi sylw i chi.
Dewch i ymuno â ni yn ein gweddïau yma, yn eich Eglwys Gadeiriol chi, dewch i gael coffi gyda ni wedyn.
Mae yma gartref ichi.
Gair eglwyslyd am rywbeth syml yw gweddi, sef bod mewn perthynas â Iesu. Y darlleniad cyntaf rydyn ni newydd ei glywed yw fy ffefryn i yn y Beibl. Mae Isaac allan yn myfyrio yn y maes fin nos. Mae cyfieithiad Saesneg yr RSV yn dweud bod Isaac yn myfyrio. Mae'n gweddïo. Y darn hwn yw'r unig le yn y Beibl lle mae rhywun yn syrthio mewn cariad. Ystyr gweddïo yw bod mewn cariad â Iesu.
Ei weld e a'i adnabod.
Dyw gweddïo ddim yn anodd nac yn rhyfedd, mae'n fywyd normal, gweddïo yw’r holl adegau dwysaf yn ein bywyd, syrthio mewn cariad, rhoi genedigaeth, gwneud ffrindiau, gwneud unrhyw beth sy'n fwy na ni. Bod yn fwy na ni ein hunain.
Gweddïo yw cydnabod mai yn ein holl gariad, fel gwŷr, gwragedd, ffrindiau, rhieni, brodyr, chwiorydd, y mae Duw yn ei wneud ei hun yn hysbys i ni.
Harddwch
Pan oeddwn i'n Brifathro yn Lewisham fe wnaethon ni fabwysiadu geiriau Sant Awstin o Hippo yn arwyddair yr ysgol.
Duw harddwch yw. Deus Pulchritudinis.
Dyma adeilad hardd. Mae'r gerddoriaeth yn hardd, mae'r addoliad yma’n hardd. Gwylies i bob eiliad o'r ymweliad brenhinol diweddar yma. Roedd yn syfrdanol ac yn gwbl ddi-fai.
Pan welwn ni harddwch rydyn ni’n gweld Duw. Fy ngobaith, fy ngweddi yw y bydd yr eglwys gadeiriol hon yn fan lle bydd y celfyddydau gweledol yn cael cartref. Nid celfyddyd y gorffennol, er mor bwysig yw hwnnw, ond celf y presennol. Y ffyrdd rydyn ni'n gwneud synnwyr o'r presennol. Fy ngair olaf ar gyfer gweinidogaeth y gadeirlan hon yw gofod.
Mae bywyd yn brysur. Mae'r byd yn brysur.
Mae arnom ni angen gofod, mae angen ehangder.
Nid eglwys ehangach yn unig yw eglwys gadeiriol.
Mae eglwys gadeiriol yn fan cyhoeddus.
Fy ngweinidogaeth i fel Deon fydd creu gofod i bob crefydd, gofod i wleidyddion, gofod lle rydyn ni'n cyfarfod, lle rydyn ni'n siarad, lle rydyn ni'n gwrando.
Nid dyma'r tro cyntaf imi siarad yn yr Eglwys Gadeiriol hon. Yn 2019 bûm yn siarad yma am yr emyn y byddwn yn ei ganu mewn ychydig eiliadau. Emyn o’r enw Gwahoddiad. Y croeso. Yr alwad. Mae'n emyn bendigedig am ei fod yn canolbwyntio ar Iesu ac yn gwbl efengylaidd.
Iesu, Iesu sy'n croesawu, Iesu sy'n gwahodd.
Mi glywaf dyner lais,
Yn galw arnaf fi.
Dwi'n caru'r llinellau yna. Ni yw'r rhai sydd wedi clywed y llais tyner, yn ein galw i gael ein bedyddio, ein hordeinio, i fyw'n Gristnogol. Ac rydyn ni’n cael ein galw i alluogi eraill i glywed y llais tyner hwn. Fe glywan nhw pan fyddwn ni'n siarad am Iesu heb embaras. Pan fyddwn ni’n modelu i bob crediniwr waith efengylu naturiol, diymdrech i'r 97% sy ddim yn mynd i'r eglwys, sy heb glywed y llais hwnnw.
Pedwar gair a thair cân.
- Gyda’n gilydd
- Gweddi
- Harddwch
- Gofod
- Go West
- Gwahoddiad
Fy nghân olaf i, yr ochr B – ydych chi’n cofio'r rheiny - i Go West. Cân o'r enw Shameless.
A minnau’n Ddeon ichi, mi fydda i’n eofn. Boed inni i gyd fod yn eofn wrth siarad am ein ffrind Iesu, boed inni fod yn eofn yn estyn gwahoddiad, gan wahodd ein chwiorydd a'n brodyr i ofod lle mae cyfiawnder yn teyrnasu, lle rydyn ni'n cwrdd mewn heddwch, lle rydyn ni'n rhannu mewn gweddi, harddwch a gofod.
Yr Iesu sy'n fy ngwadd,
I dderbyn gyda'i saint,
Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd,
A phob rhyw nefol fraint.