‘Bu bywyd y Frenhines yn un o raslondeb a doethineb’ - anerchiad Archesgob Cymru mewn gwasanaeth cenedlaethol
Bu bywyd Ei Mawrhydi y Frenhines yn un o raslondeb a doethineb, meddai Archesgob Cymru yn ei anerchiad yng ngwasanaeth cenedlaethol Cymru o weddi a myfyrdod yng Nghadeirlan Llandaf heddiw.
Wrth dalu teyrnged i’w “hetifeddiaeth ryfeddol o wasanaeth ac ymroddiad”, dywedodd yr Archesgob John fod y Frenhines wedi trawsnewid y frenhiniaeth ac wedi rhoi cysondeb cysurlon dros y degawdau.
Cafodd y gwasanaeth, a ddarlledwyd yn fyw, ei fynychu gan Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines Gydweddog a chynulleidfa o wahoddedigion o bob rhan o Gymru.
Dywedodd yr Archesgob i ddefnydd medrus y ddiweddar Frenhines o “rym meddal” ddod yn amlwg yn ei hymweliadau i Aberfan ar ôl y drychineb yno yn 1966, pan gafodd y gymuned ei phresenoldeb yn “gysur mawr”.
Wrth gyfeirio at ymdeimlad cynyddol Cymru o genedligrwydd ac agoriad adeilad y Senedd gan y Frenhines yn 2006, dywedodd yr Archesgob fod “rhannu traddodiad” yn dal i gyfrif a bod angen esiampl y Frenhines o raslondeb a doethineb i “adeiladu cymdeithas lewyrchus a thrugarog.
“Mae ein gwreiddiau fel pobl yn ddwfn, mae ein diwylliant a’n hiaith, ein straeon a’n chwedlau yn ein hymwreiddio mewn treftadaeth unigryw ond hefyd yn ein harwain at ddyfodol gydag addewid a photensial”, meddai.
Er yn “ffigur aruchel” ar lwyfan y byd, gallai’r Frenhines hefyd “synnu a llawenhau”.
“Ni fyddwn byth yn edrych ar jar o farmaled yn yr un ffordd eto nac yn edrych ar Mr Bond heb gofio am 2012 a’r naid honno i’r gwagle,” meddai’r Archesgob Andrew.
Diolchodd yr Archesgob am “ffydd Gristnogol ddofn ac ymroddedig” Ei Mawrhydi oedd wedi llunio ei hymdeimlad o ddyletswydd a gwasanaeth cyhoeddus. Dywedodd, “Roedd ei ffydd yn un bersonol, siaradodd am Iesu Grist a’i berthynas gydag ef yn ogystal â’i ddysgeidiaeth a’r ffordd yr oedd ei fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad wedi agor y posibilrwydd ar gyfer bywyd newydd, adfer perthnasoedd ac ymrwymiad i ‘Deyrnas heb fod o’r byd hwn’.
Wrth annerch Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines Gydweddog, dywedodd yr Archesgob John ei bod yn anrhydedd i’w croesawu i Gadeirlan Llandaf.
“Heddiw cydnabyddwn hefyd dristwch ein Brenin newydd a’i deulu. Yn eu galar, gallwn eu sicrhau o’n cariad a’n gofal atynt ac am ein gweddïau,” meddai.
Cafodd y gwasanaeth, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, ei arwain gan Ddeon Dros Dro Llandaf, Michael Komor, ac arweiniwyd y gweddïau gan June Osborne, Archesgob Llandaf. Hefyd yn cymryd ran oedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a ddarllenodd wers. Darllenodd cynrychiolwyr eglwysi a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru weddïau hefyd.
Canodd y côr anthem Gweddi Gymreig, a gyfansoddwyd gan Paul Mealor a geiriau gan Dr Grahame Davies gyda chyfeiliant dwy delyn, yn cael eu canu gan Alis Huws, telynores swyddogol Tywysog Cymru a Catrin Finch, cyn Delynores Frenhinol.