Lansio pecyn cymorth i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw yn y De
Bydd pecyn cymorth newydd i helpu eglwysi i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw yn cael ei lansio gan Esgob Llandaf.
Mae'r pecyn cymorth yn rhoi gwybodaeth ymarferol am sefydlu banciau bwyd, pantrïau cymunedol a mynd i'r afael â thlodi mislif, yn ogystal â chyngor ar sut i leisio barn i ddylanwadu ar wir newid. Nod y pecyn yw rhoi’r adnoddau i’r eglwysi i gefnogi pobl sydd mewn angen yn y fan a’r lle ac i ddefnyddio’u dylanwad i ymladd dros gyfiawnder. Y gobaith yw y bydd yr eglwysi'n teimlo eu bod wedi'u hysbrydoli i gymryd rhan mewn trefnu, ymgyrchu ac eiriolaeth gymunedol i sicrhau newid sy'n codi pobl allan o dlodi ac yn cyfyngu newyn i’r gorffennol.
Dywedodd June Osborne, Esgob Llandaf, "Rwy'n pryderu'n fawr am yr argyfwng costau byw, sy'n cael effaith ddinistriol ar y bobl sy’n fwyaf agored i niwed. Mae'r cynnydd ym mhrisiau bwyd ac eitemau hanfodol eraill yn gwthio mwy o bobl i mewn i dlodi. Mae teuluoedd yn wynebu dewis llwm rhwng cynhesu eu cartref neu fwydo’u plant.
"Dro ar ôl tro rwy'n gweld yr Eglwys yn codi'r darnau wrth i galedi ariannol ddinistrio cymunedau. Mae'n staen ar y gymdeithas fodern bod banciau bwyd yn bodoli ond mae'r eglwysi hynny sydd eisoes wedi camu i fyny i redeg neu i gefnogi mwy nag 20 o fanciau bwyd neu bantrïau ar draws yr esgobaeth yn gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn. O Gaerdydd i Gastell-nedd, o'r Barri i Ferthyr Tudful, mae cannoedd o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser, drwy eu cariad at Dduw, i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus yn eu cymuned.
"Fydd yr eglwys ddim yn rhoi'r gorau i godi ei llais wrth geisio cyfiawnder nes bod yr angen am fanciau bwyd yn cael ei fwrw i'r gorffennol pell lle mae'n perthyn. Rwy'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i leddfu effaith yr argyfwng costau byw ac i helpu pobl i ymdopi â phwysau ariannol andwyol."
Mae bron chwarter pobl Cymru eisoes yn byw mewn tlodi* ac mae hyd at 45% o’r aelwydydd yn profi tlodi tanwydd**. Yn Nelson a Threharris, mae Banc Bwyd Taf Bargod, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Trussell, wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n cysylltu â nhw i ofyn am gymorth.
Yn ystod wythnos arferol ym mis Mai, ymatebodd y banc bwyd i dros 40 o geisiadau gan bobl leol sy'n profi caledi, ac mae cannoedd o bobl yn casglu eitemau hanfodol o'u pantri cymunedol. Fe lwyddon nhw hefyd:
- i rannu 808kg o eitemau hanfodol fel bwyd a thoiledau.
- i ddarparu 26 o dalebau tanwydd brys ar gyfer nwy a thrydan.
- i ddarparu bedwar cerdyn sim Vodafone i helpu pobl i gael mynediad i ffôn symudol.
Dywedodd y Parch Gareth Coombes, a sefydlodd y banc bwyd, "Mae gan gymuned ein heglwysi hanes hir o gefnogi pobl yn Nelson, Treharris a’r tu hwnt. Yn ystod y cyfnod clo, buon ni’n cefnogi dros 500 o deuluoedd gyda bwyd a hanfodion eraill drwy ein pantri cymunedol.
"Ac eto mae'r angen yn dal yn aruthrol. Yn ddiweddar, fe gawson ni’n llethu gan geisiadau am gymorth ac rydyn ni’n gorfod gofyn yn rheolaidd am roddion bwyd i ateb y galw. Mae teuluoedd yn dweud wrthon ni fod ein pantri cymunedol a'n banc bwyd yn achubiaeth ac y byddai'n rhaid iddyn nhw fynd heb bethau pe na bai'r banc bwyd yn bodoli.
"Er mai cefnogi'r rhai o'n cwmpas sydd â'r angen mwyaf yw’n galwad ni fel Cristnogion, rwy'n credu ei bod yn warthus bod banciau bwyd yn bodoli. Dyw hi ddim yn ddigon darparu banciau bwyd, mae’n rhaid i’r eglwysi siarad yn erbyn anghyfiawnder hefyd."
Mae'r pecyn cymorth costau byw yn cynnwys cyngor ar lobïo’ch Aelod o’r Senedd a'ch Aelod Seneddol ac mae’n cynnwys cyfeiriadau at ddeisebau sy'n galw am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r argyfwng.
Pecyn Cymorth Costau Byw - LLandaff Diocese (churchinwales.org.uk)
*Tlodi yng Nghymru 2020, Sefydliad Joseph Roundtree
https://www.jrf.org.uk/file/56856/download?token=hwT5JcDp&filetype=briefing
** https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-tlodi-tanwydd Llywodraeth Cymru