Prifathrawes o'r Cymoedd wedi'i penodi yn Bennaeth Addysg Esgobaethol Newydd.
Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion bod Clare Werrett wedi’i phenodi’n Bennaeth Addysg newydd.
Mae Clare wedi bod yn Brifathrawes yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf ers deng mlynedd. Dechreuodd ei gyrfa addysgu dros 30 mlynedd yn ôl yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, Tregolwyn, ac ar ôl 14 mlynedd symudodd i fod yn Ddirprwy Bennaeth ac wedi hynny yn Bennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Saint-y-brid. Dim ond am chwe wythnos y bwriadai Clare weithio yn St. David’s, gan mai swydd dros dro oedd hon, cyn parhau i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth. Fodd bynnag, unwaith yno fe ‘syrthiodd mewn cariad’ â’r swydd ac yn ffodus ddigon, wnaethon nhw ddim gadael iddi fynd!
Yn y pen draw, daeth ymrwymiadau teuluol â hi i ffwrdd o Fro Morgannwg, i Gwm Cynon a'i swydd bresennol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Clare wedi ymgymryd â sawl rôl wahanol, gan gynnwys rôl cynullydd clwstwr ar gyfer ei hardal a hefyd rôl hyfforddwr arweinyddiaeth. Mae hi wedi mwynhau gweithio gyda, a chefnogi arweinwyr eraill ar eu taith gan ei bod yn brofiadol iawn mewn cyfnod anodd ac yn dda.
Yn wreiddiol o Bort Talbot, mae Clare bellach yn byw yn Aberdâr gyda'i gŵr Jonathan, rheolwr cynhaliaeth a merch Ruby, sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr.
Dywedodd Clare, "Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo mor freintiedig i gael fy mhenodi i swydd Pennaeth Addysg. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n hysgolion ar draws Llandaf a Mynwy ac rwy'n gyffrous i weithio o fewn yr Esgobaeth a dod yn rhan o'u tîm ymroddedig. ."
Daliwch Clare, ei theulu, ac Ysgol Gynradd CiW Tref Aberdâr yn eich gweddïau yn ystod y cyfnod hwn o newid.