Cynnig Rolau Allweddol Mewn Gweinidogaeth i Wirfoddolwyr
O arwain addoliad i ymweld â phobl sy’n wael ac yn gaeth i’w cartrefi, gwahoddir gwirfoddolwyr i gymryd rolau allweddol yng ngweinidogaeth eu heglwys.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ail-lansio rolau “gweinidogaeth gomisiynedig” i annog pobl i chwarae mwy o ran wrth helpu eu heglwysi i wasanaethu’r gymuned.
Caiff gwirfoddolwyr, a fydd ag ymrwymiad gweithredol i ffydd, eu cefnogi a’u hyfforddi gan eu hardal weinidogaeth ac esgobaeth, a byddant yn gweithio’n agos gyda chlerigwyr a gweinidogion trwyddedig eraill.
Y tair rôl gweinidogaeth gomisiynedig yw Arweinydd Addoliad, Cynorthwy-ydd Bugeiliol a Catecist:
- Arweinwyr Addoliad: helpu i arwain neu gynorthwyo mewn gwasanaethau eglwys
- Cynorthwywyr Bugeiliol: gweddïo ac ymweld â phobl ifanc os ydynt yn wael, yn dioddef neu yn gaeth i’w cartrefi.
- Catecistiaid: helpu pobl i ddyfnhau eu ffydd drwy astudiaeth a myfyrdod.
Bwriedir i’r categorïau fod yn eang, gan gynnwys elfennau craidd ar gyfer hyfforddiant, ond caniatáu ar gyfer arbenigedd unigol. Gall gwirfoddolwyr weithio o fewn tîm lleyg neu fel unigolion gyda thîm gweinidogaeth ehangach.
Caiff taflenni yn amlinellu pob gweinidogaeth gomisiynedig eu lansio yng nghyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys ym mis Medi. Byddant yn esbonio beth mae pob rôl yn ei olygu, yr hyn y disgwylid i wirfoddolwyr ei wneud, eu hyfforddiant a beth fyddai’r camau nesaf wrth gymryd y rôl.
Dywedodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, yr esgob gyda phortffolio gweinidogaeth, “Mae llawer o bobl dan y camargraff mai dim ond y ficer all gynnal gweinidogaeth eglwys. Er fod rhai tasgau mai dim ond clerigwyr all eu gwneud, mae llawer o fathau eraill o weinidogaeth a gaiff eu rhannu gan bawb, gan fanteisio i’r eithaf ar ein holl ddoniau a thalentau. Bydd llawer o gynulleidfaoedd eisoes wedi bod ag ymwelwyr bugeiliol neu arweinwyr addoliad lleyg neu hyd yn oed efallai catecistiaid dros y blynyddoedd. Gobeithio y bydd yr ail-lansiad hwn yn rhoi egni newydd iddynt ac ysbrydoli eraill i gyflwyno eu hunain i ddod â bywyd newydd i gymunedau drwy’r gweinidogaethau pwysig hyn.”
Meddai’r Canon Dr Trystan Owain Hughes, Cyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth, “Rydym wedi ein bendithio yn yr Eglwys gyda chynifer o wirfoddolwyr sy’n helpu i ofalu am ein hadeiladau, cynnal grwpiau plant a ieuenctid, codi arian pwysig a chadw ein heglwysi yn ffynnu. Mae’r gweinidogaethau comisiynedig hyn yn gyfle gwych i gymryd hyd yn oed fwy o ran yn yr adolygiad a’r gofal a gynigiwn.”
ASTUDIAETH ACHOS
Val Jones, Cynorthwy-ydd Bugeiliol
O ganu yn y côr i arwain Ysgol Sul, bu Val Jones yn aelod gweithgar iawn o Eglwys Crist, Parc y Rhath, Caerdydd, am dros 20 mlynedd. Am y chwe mlynedd diwethaf, bu hefyd yn Gynorthwy-ydd Bugeiliol, gan weithio wrth ochr tîm creiddiol o bump, y tîm clerigwyr a chylch eang o bobl eraill sy’n ymuno pan ofynnir iddynt.
Mae Val yn rhoi unrhyw beth rhwng un a thair awr neu fwy yr wythnos i ymweld â phlwyfolion ar adeg o angen – p’un ai ydynt adref, mewn gofal preswyl neu mewn ysbyty. Mae hefyd yn cadw mewn cysylltiad â ac yn cefnogi eu teuluoedd, yn arbennig ar adegau o brofedigaeth. Mae Val ac eraill o Eglwys Crist yn cynnal cyfarfodydd misol – prynhawniau o gyfeillgarwch, cwmnïaeth, bwyd a hwyl, i bawb o Eglwys Crist a’r gymuned ehangach.
“Rydym yn un teulu eglwysig mawr sy’n uno yn ein cymuned,” meddai Val, a fu â gyrfa faith mewn addysgu a darlithio yng Nghaerdydd a Chasnewydd. “Mae’r bobl rwy’n ymweld â nhw yn bwysig i fi ac mae eu teuluoedd yn gwybod fod pobl eraill sy’n gofalu ac sy’n eu cefnogi.
“Rwy’n ei chael yn rôl werth chweil iawn – mae’r bobl y gofalant amdanynt yn rhoi cymaint i fi ag wyf i yn ei roi iddyn nhw. Mae’n fy nghadw’n brysur ac mae’n rhoi ymdeimlad i mi o fod yn rhan o deulu estynedig arall.”
Yn ystod cyfnodau clo Covid sefydlodd y tîm grŵp mwy a ymrwymodd i alwadau ffôn rheolaidd gyda phlwyfolion eraill. “Mae’n hyfryd fod llawer o’r cysylltiadau hyn yn parhau hyd heddiw, hyd yn oed pan fedrwn gwrdd fel y mynnwn,” meddai Val.
Derbyniodd Val hyfforddiant dechreuol fel Cynorthwy-ydd Bugeiliol a drefnwyd ar gyfer nifer o eglwysi lleol. Ers hynny mae wedi cwblhau cyrsiau eraill, yn cynnwys Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofal Profedigaeth Care For The Family a Hyfforddiant Dementia gan Gymdeithas Alzheimer, sydd wedi ei helpu i’w pharatoi i fod yn ymwelydd bugeiliol cefnogol a chyfaill eglwys. Dywedodd mai’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd yw amynedd, cydymdeimlad a charedigrwydd yn ogystal â’r gallu i ofalu, annog, gwrando a chysuro.
“Rwy’n ei theimlo’n fraint fawr i wasanaethu fy eglwys yn y rôl hon oherwydd ei bod yn rhoi cyfle i mi gefnogi a chynorthwyo pobl sy’n cael eu hunain mewn angen oherwydd oedran, salwch neu amgylchiadau bywyd,” meddai Val.