Esgobion Cymreig Yn Galw Am Gadoediad Yn Gaza
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn galw am gadoediad yn Gaza.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw (Tachwedd 16), maen nhw’n dweud mai dim ond cadoediad fydd yn galluogi i gymorth cael ei ddarparu a phroses ddiplomyddol i ddechrau.
Datganiad yr Esgobion ar Gaza
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi bod yn dilyn y digwyddiadau yn Gaza dros y mis diwethaf gyda phryder cynyddol.
Yng ngoleuni'r digwyddiadau hyn, pan fo marwolaeth cymaint o sifiliaid diniwed yn llethol, credwn fod y gobaith o heddwch yn cael ei yrru ymhellach i ffwrdd.
Rydym yn gwneud galwad pwysig i ryddhau pob gwystl ar unwaith ac am gymorth dyngarol fynd yn ddiogel i Gaza.
Credwn mai dim ond cadoediad fydd yn sicrhau bod y cymorth hwn yn cael ei ddarparu a'i fod yn rhagofyniad ar gyfer cychwyn llwybr diplomyddol ymlaen, gan arwain at ateb dwy-wladwriaeth i bobl Israel a Phalestina.
+Andrew Cambrensis (Archesgob Cymru ac Archesgob Bangor, Andrew John)
+Gregory Llanelwy (Esgob Llanelwy, Gregory Cameron)
+Cherry Mynwy (Esgob Mynwy, Cherry Vann)
+John Abertawe ac Aberhonddu (Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas)
+Mary Llandaf (Esgob Llandaf, Mary Stallard)
Dorrien Davies, Darpar Esgob Tyddewi