Bydd y Coroni yn achlysur ‘pwysig a hapus’, meddai esgobion Cymru
Dywedodd Esgob Llandaff ac Esgobion yr Eglwys yng Nghymru y bydd y Coroni yn achlysur “pwysig a hapus” i’r genedl.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw, mae’r esgobion yn gofyn am fendith Duw i’r Brenin a’r Frenhines newydd ac yn rhoi diolch neilltuol am wasanaeth y Brenin Charles fel Tywysog Cymru.
Mae’r datganiad llawn yn dilyn.
Bydd eglwysi ledled Cymru yn cynnal gwasanaethau arbennig, partïon, cyngherddau a digwyddiadau y dydd Sul hwn (30 Ebrill) a’r penwythnos nesaf i nodi’r Coroni gyda chlochyddion yn ymuno yn nigwyddiad “Canu Clychau dros y Brenin”. Mae rhestr yn dilyn o rai o’r gwasanaethau mwy a gynhelir.
Datganiad yr Esgobion ar y Coroni
Mae Coroni Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines yn achlysur pwysig a hapus i’n cenedl ac i’r Gymanwlad a gwyddom y bydd pobl o bob rhan o’r byd yn ymuno â ni i weddïo dros ein Brenin a Brenhines newydd.
Anfonwn ein llongyfarchiadau cynhesaf atynt a gofynnwn i Dduw eu bendithio gyda gwir alluoedd grym ac awdurdod: dewrder i siarad y gwirionedd, doethineb i rannu dirnadaeth a phrofiad, a gwasanaethgarwch a fynegir mewn gwyleidd-dra ac ymrwymiad i eraill.
Diolchwn hefyd am wasanaeth hir ac ymroddedig y Brenin fel Tywysog Cymru, dros y bobl ac achosion a gefnogodd a’r cyfeillgarwch a estynnodd, nid yn lleiaf i’n heglwysi a chynulleidfaoedd.
Bydded i’w ddau Fawrhydi gael teyrnasiad hir a hapus.
Archesgob Cymru, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Trefynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Llandaf, Mary Stallard
Gweddi agoriadol
Hollalluog Dduw ein Tad nefol,
bendithia Charles ein Brenin,
yr ydym yn awr yn dathlu ei Goroni.
Cynorthwya ef i gyflawni ei ddyletswyddau,
er mwyn iddo drwy ei ddylanwad
gynnal undeb, ewyllys da a heddwch
ymhlith ei bobloedd,
ac fel, trwy ddyfalbarhad mewn gweithredoedd da tan y diwedd,
y daw trwy dy drugaredd i’th deyrnas dragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân
yn un Duw yn awr ac am byth.
Amen.