Esgobion Cymru yn Annog Llywodraeth i Dynnu Bil Rwanda yn ôl
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu Bil Rwanda yn ôl. Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun 27ain, Ionawr) maent yn mynegi eu “pryderon dwfn” am y ddeddfwriaeth arfaethedig.
Datganiad Bil Rwanda
Mae cynnydd mewn mudo yn achosi dilema unigryw o boenus i wleidyddion, swyddogion cymdeithasol a chymdeithas yn gyffredinol. Sylweddolwn fod hon yn sefyllfa gymhleth. Serch hynny, mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn dymuno mynegi pryder dwfn am y ddeddfwriaeth arfaethedig sy’n ceisio anfon mudwyr i Rwanda. Nodwn benderfyniad y Goruchaf Lys y byddai ceiswyr lloches a anfonir i Rwanda yn wynebu risg gwirioneddol o gamdriniaeth pe byddent yn cael eu hanfon yn ôl i’r wlad y maent wedi tarddu ohoni. Byddem yn nodi ymhellach ein bod eisoes yn rhoi statws lloches i ffoaduriaid o Rwanda. Rydym yn parhau’n sicr fod dadl foesol gref fod anfon bodau dynol i wlad arall yn ymwrthod â chyfrifoldeb. Mae ein ffydd yn galw arnom i alw ar bawb sy’n gysylltiedig i sicrhau nad yw buddiannau’r rhai sydd fwyaf mewn angen byth yn cael eu diystyru. Anogwn y llywodraeth i dyfynnu’r ddeddfwriaeth hon yn ôl.
Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory K Cameron
Esgob Mynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Llandaf, Mary Stallard
Esgob Tyddewi, Dorrien Davies