Eglwysi Cymru wedi eu siomi yn Boris Johnson
Mae arweinwyr eglwysi yng Nghymru wedi datgan eu siom ym mhenderfyniad llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i uno’r Adran Datblygu Ryngwladol gyda’r Swyddfa Dramor. Mewn llythyr wedi ei arwyddo ar y cyd gyda’r elusen datblygu ryngwladol Cymorth Cristnogol, maent wedi annog y Prif Weinidog Boris Johnson i sicrhau bod gwerthoedd a hygrededd yr adran yn cael eu gwarchod i’r dyfodol.
Meddai Cynan Llwyd, pennaeth gweithredol Cymorth Cristnogol yng Nghymru, ‘Rydan ni wedi’n siomi’n fawr o glywed y newydd am benderfyniad Llywodraeth Prydain, yn enwedig mewn cyfnod pan fo cymunedau tlotaf y byd yn wynebu Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd. Mae DfID wedi bod yn bartner pwysig yn y frwydr yn erbyn tlodi byd eang dros y blynyddoedd. Rydym yn teimlo fod y gwaith hwn nawr mewn perygl.’
Meddai Nan Powell-Davies, gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Chadeirydd Cymorth Cristnogol Cymru, ‘Fel un o wledydd cyfoethocaf y byd, credwn fod cyfrifoldeb ar y DG i helpu i ddileu tlodi yn y de byd eang. Am y tro cyntaf yn 2013, fe gyrhaeddodd y DG y nod o wario 0.7% o’r incwm cenedlaethol ar gymorth a gwaith datblygu. Roedd hyn yn foment bwysig i’r wlad - yn rhywbeth oedd yn ehangu ein henw da.
‘Ond nid jest faint yr ydan ni’n ei wario sy’n bwysig - mae sut yr ydan ni’n ei wario yn allweddol. Roedd gan DfID enw ardderchog am wario arian yn dda ac yn dryloyw. Does gan y Swyddfa Dramor ddim mo’r un enw da. Mae’n gonsyrn mawr inni, felly, y gallai’r penderfyniad i uno’r ddwy adran wneud drwg sylweddol i waith cymorth a datblygu'r DG.’
Ychwanegodd Cynan Llwyd, ‘Mae yna hanes hir oddi fewn i eglwysi Cymru o gefnogi’r frwydr yn erbyn tlodi. Mae’n rhan annatod o’n ffydd Gristnogol. Bydd y gwaith hwnnw’n parhau ond rydym yn gobeithio na chaiff ei danseilio gan y penderfyniad rhyfygus hwn gan lywodraeth Prydain.’
Yn ogystal â Cynan Llwyd o Cymorth Cristnogol, cafodd y llythyr ei arwyddo gan y Parch Nan Powell-Davies (Cadeirydd Cymorth Cristnogol Cymru), Archesgob Cymru, y Gwir Barchedicaf John Davies, Y Gwir Barchedig Joanna Penberthy (Esgob Tŷ Ddewi), Parch Meirion Morris (Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Parch Judith Morris (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru), Parch Dyfrig Rees (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Annibynwyr Cymru), Parch Ddr Jennifer Hurd (Cadeirydd Synod Cymru, yr Eglwys Fethodistaidd), Parch Christopher Gillham (Ysgrifenydd Congregational Federation Cymru), Parch Ddr Stephen Wigley (Cadeirydd Synod Methodistiaid Cymru), Parch Simon Walkling (Llywydd, URC Cymru).
DIWEDD
Os am fwy o wyobodaeth neu gyfweliad, cysylltwch gyda Cynan Llwyd 07885 570434