Eglwysi Cymru'n Helpu Teuluoedd i Ddychwelyd i'r Ysgol mewn Argyfwng Costau Byw
Gyda'r flwyddyn ysgol ar fin dechrau a'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ar gyllid teuluoedd, mae eglwysi a chymunedau yn Esgobaeth Llandaf wedi sefydlu prosiectau i sicrhau bod gwisg ysgol ar gael ac yn fforddiadwy i bawb.
Mae Siop Gymunedol Llansawel, gyda chefnogaeth ymddiriedolwyr yn yr ardal gan gynnwys eglwys y plwyf, yn gwerthu pob eitem o wisg ysgol sy’n dod i law fel rhodd am £1. Mae Ann Mayers, sy'n aelod o Eglwys Plwyf Dewi Sant yng Nghastell-nedd, yn rhan annatod o'r gwaith o redeg y siop. Dywedodd Ann ei bod wedi cael cwsmeriaid yn diolch am y drefn yma gan eu bod nhw’n gallu dod i’r siop a thalu am y dillad sy'n golygu nad yw’r peth yn teimlo fel rhodd gan elusen ond ei bod yn dal yn fforddiadwy iawn.
Mae'r eitemau yn y siop yn cael eu cyfrannu, eu didoli a'u golchi'n barod i'w gwerthu ac mae unrhyw ddillad sy ddim yn addas i'w hailwerthu yn cael eu casglu gan gwmni sy’n rhoi arian i’r siop amdanyn nhw hefyd, ond dywedodd Ann ei bod hi wedi'i syfrdanu gan faint o ddillad sy'n dod i mewn sy'n newydd sbon, gan gynnwys crysau ysgolion gwyn yn eu pacedi.
Dywedodd y Tad Richard Green, ficer Eglwys Sain Ffagan a rhan o brosiect Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Cwm Cynon, fod rhoi dillad i gyfnewidfeydd gwisg ysgol yn golygu nad yw dillad sy’n gallu cael eu defnyddio yn mynd i safleoedd tirlenwi ac yn lleihau'r galw am weithgynhyrchu gwisgoedd newydd, sef dau beth sy’n helpu'r amgylchedd. Yng nghymunedau lleol Cwmdâr, Trecynon a Llwydcoed sy’n cael eu gwasanaethu gan Eglwys Sain Ffagan, nid teuluoedd mewn angen ariannol yn unig a ddefnyddiodd y Gyfnewidfa eleni; mae llawer wedi cael eu hysbrydoli gan agweddau ecolegol ailddefnyddio ac ailgylchu.
"Mae'r Gyfnewidfa’n ffordd fach inni geisio gwneud rhywbeth am hyn," meddai’r Tad Richard. "Ac yn olaf, rydyn ni'n credu mewn ceisio diogelu creadigaeth Duw, ac felly mae buddion amgylcheddol y cynllun yn rhan o hyn."
Mae Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Cwm Cynon yn rhedeg yn Neuadd Gymunedol Eglwys Sain Ffagan ers 2019, a dim ond un flwyddyn yn ystod y pandemig sydd wedi’i cholli, sef 2020. Mae pobl y gymuned yn cael eu gwahodd i roi eitemau gwisg ysgol sy’n ddiangen ond sy'n dal mewn cyflwr da.
Mae’r tad Richard a thîm Sain Ffagan yn ymwybodol, ar sail yr amrywiol brosiectau eraill mae Sain Ffagan yn eu rhedeg, fod y pwysau ariannol ar deuluoedd o ran prynu gwisg ysgol yn fawr. Mae dillad yn gost barhaus i deuluoedd, wrth i blant dyfu a/neu symud ysgol. Am yr un rheswm, bydd gan lawer o deuluoedd hen wisg ysgol nad yw’n gallu cael ei defnyddio mwyach ond sy'n dal mewn cyflwr da.
Dywedodd y Tad Richard, "Rŷn ni’n teimlo ei bod yn bwysig i'r eglwys fod yn rhan o'r math yma o brosiect achos ein bod ni’n credu yng ngwerth cymuned: pobl yn dod at ei gilydd i helpu ei gilydd. Dyma hanfod y gorchymyn "câr dy gymydog". Rydyn ni hefyd yn credu mewn gweithio dros gymdeithas decach, fwy cyfiawn, lle nad yw pobl yn mynd heb bethau dim ond oherwydd eu statws economaidd."
Mae Uwch Swyddog Allgymorth yr Esgobaeth, Christoph Auckland, yn credu bod eglwysi’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant ysgol i gael dechrau da i'w haddysg. Dywedodd, "Mae'r ysgol yn gyfnod sylfaenol ym mywyd plentyn ac mae’n amhosibl gorbwysleisio effaith dillad ar iechyd meddwl plentyn. Gyda chostau byw yn brathu teuluoedd yn galed a'r wisg ysgol newydd ar gyfartaledd yn costio dros £300, i lawer o bobl dyma un bil yn ormod. Mae cyfnewid gwisgoedd, talebau a chynlluniau grant yn hanfodol er mwyn helpu plant i deimlo'n hyderus a chyffyrddus wrth ddechrau yn yr ysgol, ond dechrau yn unig yw hyn ac mae llawer mwy a all gael ei wneud i sicrhau bod gwisgoedd yn fforddiadwy i bawb. Pethau syml fel cael gwared ar logos gormodol a brandio diangen, peidio defnyddio lliwiau anarferol fel bod modd cael dewisiadau rhatach mewn archfarchnadoedd, a chael un wisg safonol ac nid gwisgoedd gaeaf a haf."
Mae Siop Gymunedol Llansawel bellach wedi gwerthu allan o un o’r gwisgoedd ysgol maen nhw'n eu darparu, sy'n dangos yr angen am y gwasanaeth yn y gymuned. Dywedodd Ann, "Mae pawb eisiau i'w plentyn fynd i'r ysgol mewn gwisg daclus."
Mae'r siop gymunedol yn rhedeg ers 26 blynedd a phob blwyddyn mae'r arian sy’n cael ei godi yn mynd yn ôl i'r gymuned ar ffurf grantiau at prosiectau lleol. Y llynedd fe gafodd £18,000 ei roi mewn grantiau. Mae'r eglwys hefyd yn derbyn peth o'r arian ar gyfer ei gwaith cynnal a’i phrosiectau ei hun.
Dywedodd Ann, "Y wobr fwyaf yw pan fôn ni'n rhoi sieciau grant yna allan a dwi'n gallu gweld beth mae'n ei olygu i'r bobl sy'n eu cael nhw mewn gwahanol sefydliadau. Mae'n golygu llawer iddyn nhw fel eu bod nhw'n gallu parhau i wneud beth maen nhw'n wneud. Rŷn ni’n helpu ysgolion, Her Canser, Cyfeillion Ysbytai a Gofal y Fron. Ond mae'n debyg na fyddai'r grwpiau bach fel y grwpiau celf yn gallu parhau heb ychydig o help gennyn ni. Dwi wastad ar ben fy nigon y diwrnod hwnnw.”