Caru'n Hysgolion
Os yw pandemig y coronafeirws wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig yw’n hysgolion a phob unigolyn sy’n rhan o waith ysgolion, boed yn athrawon, cynorthwywyr dosbarth, staff y swyddfa a’r gegin a gofalwyr. Mae hefyd wedi tanlinellu rhan mor hanfodol yw, nid yn unig yr addysg a gaiff ein plant yn yr ysgol, ond hefyd y gymdeithas a’r gofal.
Cytuno?
Os felly mae angen i ni garu’n hysgolion a dangos y cariad hwnnw wrth ddod yn rhan o ymgyrch weddi dros ein hysgolion. Bwriad y mudiad Gweddi dros Ysgolion (Prayer for Schools) yw gwneud pob ysgol yn destun gweddi. Ac mae gwahoddiad i bob un ohonom ymuno yn y gweddïo hwn.
Wrth ddilyn y linc https://www.prayforschools.org/loveourschools/ cewch fynediad at adnoddau a gwybodaeth i’ch cynorthwyo i wneud hyn.
Ar y dudalen we, ceir linc pellach at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Dewch i ni garu’n hysgolion – a gweddïo’n gyson drostynt.