Hafan Cyfathrebu ac Estyn Allan Pecynnau Offer Cenhadaeth Pecyn Cymorth Costau Byw

Pecyn Cymorth Costau Byw

Cyflwyniad

Mae cynnydd aruthrol mewn prisiau a chwymp mewn incwm gwirioneddol i’w wario wedi creu argyfwng costau byw ledled y Deyrnas Unedig. Mae canlyniadau’r pandemig, biliau bwyd ac ynni cynyddol yn sgil rhyfel ac argyfwng byd-eang, ac oedi parhaus mewn masnachu wedi cyfuno i greu storm berffaith a allai weld y toriad mwyaf mewn safonau byw ers y 1950au.

A ninnau’n Gristnogion, rydyn ni wedi’n galw i helpu’r rhai sydd mewn angen, ac i arfer ac ymgorffori’n ffydd trwy wasanaeth cariadus a thrwy geisio cyfiawnder. Yng ngeiriau enwog her Iago inni, "Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw?” (Iago 2.15-16).

Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder â'r truan, ac y rhydd farn i'r anghenus.
Salm 140.12

Cyd-destun Cymru

Image of Cardiff Bay

Mae bron chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi, ac mae Llandaf yn cynnwys rhai o rannau mwyaf difreintiedig Cymru, gyda 6 o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig o fewn yr esgobaeth. Mae Cymoedd y De yn ardaloedd o angen penodol, gyda mwy na hanner yr oedolion o oedran gweithio yn ddi-waith.

Mae Covid wedi gwaethygu sefyllfa oedd eisoes yn anodd. Bu’n rhaid i dros draean o deuluoedd incwm isel Cymru sydd â phlant wario mwy yn ystod y pandemig yn 2020 i oroesi, ac aeth rhyw 400,000 o bobl ar ei hôl hi o ran talu eu biliau. Mae hyn yn debygol o waethygu wrth i brisiau ynni godi. Mae hyd at 45% o aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd, gydag 8% mewn tlodi tanwydd eithafol – yn gorfod gwario mwy nag 20% o’u hincwm i gadw’n gynnes. Bydd y cynnydd a ragwelir yn y cap ar brisiau ynni yn yr hydref yn gwthio hyn ymhellach byth, a hynny er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr ynni net, gan allforio mwy o ynni nag y mae’n ei ddefnyddio (mae rhyw tua 27% o’r ynni a gynhyrchir yng Nghymru yn dod o ynni adnewyddadwy).

Mae setliad datganoli Llywodraeth Cymru yn golygu bod ymateb i’r argyfwng hwn yn gymhleth. Er bod yna lawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ac y mae’n ei wneud, San Steffan sy’n llywio newid systemig ehangach.

Sut Gallwch Chi Helpu

Food bank

Newyn

Mae Banciau Bwyd yn chwarae rhan arwyddocaol wrth gefnogi teuluoedd mewn tlodi – yn y flwyddyn ddiwethaf darparodd banciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell fwy na 2.1 miliwn o barseli bwyd i bobl ledled y Deyrnas Unedig. Gallwch ddod o hyd i fap o holl fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yma: www.trusselltrust.org/get-help/find-a-foodbank

Er hynny, i gael mynediad i fanc bwyd fel arfer mae arnoch chi angen taleb gan weithwyr gofal proffesiynol fel ymwelydd iechyd, staff yn yr ysgol, neu weithwyr cymdeithasol. Felly mae llawer sydd efallai angen cymorth gan fanc bwyd yn methu â chael mynediad iddo. Yn ffodus mae yna amryw o gynlluniau eraill y gall eglwysi ac Ardaloedd Gweinidogaeth eu defnyddio i ddarparu bwyd am gost isel neu ddim cost o gwbl i’w cymuned.

Archfarchnadoedd a Phantrïau Cymdeithasol

Mae archfarchnadoedd cymdeithasol a phantrïau cymunedol yn ffyrdd gwahanol o ddarparu bwyd i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd. Yn hytrach na darparu pecyn penodol o fwyd a hanfodion am ddim, mae archfarchnadoedd cymdeithasol a phantrïau yn galluogi teuluoedd i ddewis o blith dwsinau o gynhyrchion y maen nhw’n talu amdanyn nhw, ond yn cael gostyngiad sylweddol. Mae hyn fel arfer yn dod ar ffurf tâl aelodaeth a/neu ffi wythnosol am y nwyddau sy’n cael eu prynu. Felly, am dâl aelodaeth o £10 y flwyddyn dyweder, efallai y bydd archfarchnad gymdeithasol neu bantri yn galluogi’r aelodau i wneud eu siopa wythnosol am ffi o £5, ond eu bod yn cael nwyddau gwerth hyd at 6 gwaith yn fwy, gan arbed tua £1,000 dros y flwyddyn. Mae'r archfarchnadoedd a'r pantrïau cymdeithasol hyn yn helpu i gefnogi unigolion sy’n methu neu sy’n gwrthod cyrchu darpariaeth gan fanc bwyd, yn cynnig mwy o ryddid i ddewis wrth siopa, ac yn helpu i leihau gwastraff bwyd trwy gaffael stoc sydd â dyddiadau byr neu stoc anaddas oddi wrth archfarchnadoedd a chyflenwyr lleol.

Gall archfarchnadoedd a phantrïau cymdeithasol gael eu sefydlu a’u rhedeg yn annibynnol, fel yn Eglwys Crist yn Spitalfields yn Llundain, neu fod yn rhan o rwydweithiau ehangach ledled y Deyrnas Unedig. Mae Your Local Pantry yn enghraifft o rwydwaith ledled y Deyrnas Unedig sy'n cynnig bwyd ffres, bwyd tun, bwyd wedi'i rewi a bwyd oer i gymunedau lleol penodol sy'n ymuno fel aelodau. Mae’r aelodau'n talu tanysgrifiad bach o ychydig bunnoedd yr wythnos, ac yn gyfnewid am hynny gallan nhw ddewis bwydydd sy'n werth llawer mwy.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Your Local Pantry ar eu gwefan: www.yourlocalpantry.co.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu archfarchnad neu bantri cymdeithasol, mae’r tîm Allgymorth yma i’ch cefnogi.

Cysylltwch â Christoph Auckland yr Uwch-swyddog Allgymorth, yn

christophauckland@churchinwales.org.uk

07949 567 047

Big Bocs Bwyd

Mae’r Big Bocs Bwyd yn brosiect ysgolion, sy’n darparu siopau ‘cyfrannu i rannu’ ar safleoedd ysgol, fel arfer mewn cynwysyddion cludiant pwrpasol, ynghyd â chyfleoedd i blant dyfu a choginio bwyd. Mae nifer o brosiectau Big Bocs Bwyd yn yr esgobaeth eisoes, gan gynnwys yn y Barri, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Bracla.

Hoffem annog Ardaloedd Gweinidogaeth i ystyried prosiectau Big Bocs Bwyd gyda’u hysgolion lleol, naill ai drwy gefnogi rhai sydd eisoes yn bod neu drwy weithio gydag ysgolion i ddatblygu rhai newydd. Dyma gyfle gwych i addysgu plant a darparu bwyd rhad i'w teuluoedd.

Rydyn ni hefyd yn awyddus i ystyried a fyddai’r model hwn yn gweithio o fewn yr eglwys ei hun, gan ddefnyddio cynhwysydd cludiant i ddarparu siop ‘cyfrannu i rannu’ ar dir yr eglwysi.

Gallwch ddod o hyd i lawer mwy o wybodaeth am brosiect y Big Bocs Bwyd, gan gynnwys fideos o gynlluniau Big Bocs Bwyd llwyddiannus mewn ysgolion ledled y De, ar eu gwefan: www.bigbocsbwyd.co.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Big Bocs Bwyd, naill ai gydag ysgol leol neu ar dir yr eglwys, mae’r tîm Allgymorth yma i’ch cefnogi.

Cysylltwch â Christoph Auckland yr Uwch-swyddog Allgymorth, yn

christophauckland@churchinwales.org.uk

07949 567 047

Ar draws yr esgobaeth mae nifer o’n heglwysi yn darparu eu banc bwyd cymunedol, eu pantri neu eu marchnad eu hunain. Mae'r Tad Gareth Coombes a'r tîm anhygoel yn Nhaf Bargod wedi cael llwyddiant ysgubol gyda'u menter nhw:

Cristnogion yn erbyn Tlodi

Mae Cristnogion yn erbyn Tlodi (CAP) yn darparu grwpiau cymorth am ddim ynglŷn â dyledion a grwpiau cymunedol lleol sy'n cynnig gwasanaethau lleol am ddim sy’n cael eu rhedeg gan yr eglwys ac sy'n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd. Er y bydd llawer sy'n cael trafferth gyda chostau byw yn gweld eu hincwm yn cael ei wasgu heb gael trafferth o ran dyledion, mae prosiectau CAP yn dal yn arfau defnyddiol i helpu pobl i sicrhau mwy o'u harian.

Gan fod yr esgobaeth wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi’n cymunedau gyda chostau byw, mae cyllid ar gael i helpu’r Ardaloedd Gweinidogaeth i gyflwyno amryw o brosiectau CAP, a gall cymorth gael ei ddarparu drwy'r tîm Allgymorth i roi'r prosiectau hyn ar waith.

Arian CAP

Mae Cwrs Arian CAP yn gwrs am ddim sy'n dysgu sgiliau cyllidebu a system syml ac effeithiol sydd wedi’i seilio ar arian parod. Mewn ychydig wythnosau mae'n dysgu’r aelodau sut i fynd i'r afael â'u harian fel y gallan nhw gyllidebu, cynilo ac atal dyled. Mae’n darparu arlwy sy’n cael effaith ond sy’n gymharol hawdd i’r eglwysi ei gweithredu ar gyfer pobl yn eu cymuned ehangach. Gall gael ei gyflwyno ar-lein neu'n bersonol.

Mae gwirfoddolwyr o Ardaloedd Gweinidogaeth yn cael eu hyfforddi gan CAP i ddod yn Hyfforddwyr Arian CAP, sydd yn eu tro yn gallu rhedeg y cwrs yn eu heglwysi.

Mae Arian CAP yn costio naill ai ffi untro o £15 am bob gwirfoddolwr sy’n cael eu hyfforddi’n Hyfforddwr Arian CAP, gyda ffioedd ychwanegol am adnoddau drwy siop ar-lein Arian CAP, neu ffi fisol o £20 i hyfforddi 3 Hyfforddwr Arian CAP, lwfans ar gyfer adnoddau o hyd at £70 y flwyddyn, ac atodiadau am ddim er mwyn cynnig cyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer plant, ieuenctid a myfyrwyr. Gall yr esgobaeth helpu Ardaloedd Gweinidogaeth gyda'r costau hyn.

Clybiau Swyddi

Mae Clybiau Swyddi CAP yn helpu ceiswyr gwaith i feistroli’r dulliau, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i gamu’n ôl i gyflogaeth, a allai gael effaith sylweddol ar gyllid y teulu a’r gymuned ehangach. Mae Clybiau Gwaith CAP yn cyfuno cymorth ymarferol ac emosiynol, ac maen nhw’n cael eu hargymell yn gryf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Er mwyn rhedeg Clwb Gwaith, mae angen i Ardaloedd Gweinidogaeth recriwtio Rheolwr Clwb Gwaith a all weithio neu wirfoddoli am 6 i 8 awr yr wythnos (a all gael ei rannu ar draws yr wythnos a'i rannu rhwng gwirfoddolwyr). Bydd angen cwpl o wirfoddolwyr hefyd i helpu Rheolwr y Clwb Gwaith i redeg y grŵp, a bydd angen mynediad rheolaidd i ystafell ar gyfer hyfforddiant a chyfrifiadur gyda mynediad i'r rhyngrwyd ac argraffydd.

Mae CAP yn ei dro yn darparu hyfforddiant a chymorth parhaus, gan gynnwys deunyddiau i redeg eu cwrs rhyngweithiol Camau at Waith sy’n para am wyth wythnos, gan gwmpasu pynciau fel adnabod cryfderau, ysgrifennu CV, a thechnegau cyfweliad. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn ffordd hawdd ac effeithiol o arfogi aelodau’r Clwb Gwaith yn ymarferol, a hynny mewn amgylchedd cefnogol sy’n rhoi hwb i hyder a morâl, gan ddangos cariad Duw mewn ffordd berthnasol, dylanwadol a thrawsnewidiol.

Mae’r prosiect hwn yn gofyn am gyfraniad partneriaeth misol o £60 y mis, ond bydd yr esgobaeth yn cefnogi’r costau hyn.

Sgiliau Bywyd

Gan adeiladu ar egwyddorion Cwrs Arian CAP, mae Sgiliau Bywyd CAP yn rhoi'r hyder a'r sgiliau penderfynu sydd eu hangen ar bobl i oroesi ar incwm isel. Mae'n dysgu technegau arbed arian ymarferol i bobl, fel coginio ar gyllideb, byw'n iach ar lai, a gwneud i arian fynd ymhellach.

Er mwyn rhedeg Sgiliau Bywyd, bydd angen i Ardaloedd Gweinidogaeth recriwtio Rheolwr Sgiliau Bywyd a all weithio neu wirfoddoli am 8 i 10 awr yr wythnos (a all gael ei rannu ar draws yr wythnos a'i rannu rhwng gwirfoddolwyr). Bydd angen cwpl o wirfoddolwyr hefyd i helpu’r Rheolwr Sgiliau Bywyd i redeg y grŵp, ac angen mynediad rheolaidd i ystafell ar gyfer hyfforddiant, gyda chegin yn ddelfrydol, a chyfrifiadur gyda mynediad i'r rhyngrwyd ac argraffydd.

Bydd CAP yn darparu hyfforddiant a chymorth parhaus i’r Ardaloedd Gweinidogaeth i arfogi’r rhai sy’n cael trafferthion ar incwm isel yn eu cymunedau i gyllidebu a rheoli pwysau bywyd. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau i redeg y cwrs wyth wythnos, ac mae hefyd yn cynnwys cefnogaeth barhaus i hyfforddwyr gan dîm ymroddedig ym mhrif swyddfa CAP.

Mae’r prosiect hwn yn gofyn am gyfraniad partneriaeth misol o £60 y mis, ond bydd yr esgobaeth yn cefnogi’r costau hyn.

Canolfannau Dyledion

Fel y soniwyd uchod, bu’n rhaid i fwy nag un rhan o dair o deuluoedd incwm isel Cymru sydd â phlant gynyddu eu gwariant yn ystod y pandemig i oroesi, ac aeth tua 400,000 o bobl ar ei hôl hi o ran talu eu biliau. Gwyddom eisoes fod llawer yn ein cymunedau sydd â’u bywydau wedi’u difetha o ganlyniad i ddyled, sy’n brwydro i fwydo’u teuluoedd ac sy’n teimlo’n isel ac yn unig. Wrth i’r argyfwng Costau Byw ddyfnhau, gwaethygu eto wnaiff hyn.

Mae Canolfannau Dyled CAP yn darparu gwasanaeth cwnsela ar ddyledion i godi pobl allan o ddyled a thlodi. Bydd angen i Ardaloedd Gweinidogaeth recriwtio Rheolwr Canolfan Ddyledion a all weithio o leiaf 16 awr yr wythnos (naill ai fel gwirfoddolwr neu fel gweithiwr), a darparu cyfrifiadur, rhyngrwyd a ffôn. Bydd angen i’r Ardaloedd Gweinidogaeth hefyd recriwtio gwirfoddolwyr sy’n fodlon cefnogi Rheolwr y Ganolfan a chleientau CAP yn y gymuned.

Yn ei dro, mae CAP yn rhoi’r holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen i’r Ardaloedd Gweinidogaeth i gynnig cyfrwng cwnsela proffesiynol ar ddyledion a hwnnw wedi’i brofi i helpu rhai o’r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

Mae CAP yn gwneud yr holl waith cwnsela ar ddyledion yn ganolog, gan gynnwys opsiynau ansolfedd, gan ganiatáu i Reolwyr y Canolfannau ganolbwyntio ar gefnogi’r cleientau yn ysbrydol ac yn ymarferol. Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i’r Ardaloedd Gweinidogaeth boeni am yr holl wybodaeth ariannol a chyfreithiol, gan fod hyn yn cael ei ddarparu gan weithwyr achos CAP yn eu prif swyddfa.

Mae yna reoliadau manwl ynglŷn â chwnsela ar ddyledion, ac mae angen awdurdodiad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Awdurdodir CAP gan yr FCA ac mae ganddo yswiriant hefyd. Mae maint ac arbenigedd CAP yn golygu bod ganddyn nhw bob caniatâd angenrheidiol a thîm cydymffurfio i ddilyn y rheoliadau — sef tasg sydd bron yn amhosibl i eglwys ei chyflawni ar ei phen ei hun. Gall cleientau hefyd drefnu apwyntiadau a siarad yn uniongyrchol â'u gweithwyr achos penodedig o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae’r llinellau ffôn ar agor 9:30am-5pm.

Mae model y Ganolfan Ddyledion yn dod â chostau sylweddol i CAP – dros £21,000 y flwyddyn fesul canolfan. Gan fod CAP yn awyddus i weld Canolfannau Dyledion yn cefnogi pobl, y cyfraniad sydd ei angen yw tua £600 y mis, yn ogystal â chyflog Rheolwr y Ganolfan os nad yw’n swydd wirfoddol. Er bod yr esgobaeth yn gallu helpu i gyflwyno Canolfannau Dyled, mewn deialog â CAP rydym wedi nodi pedwar bwlch yn y ddarpariaeth lle rydyn ni’n teimlo y byddai Canolfannau Dyledion yn cael eu defnyddio orau – Caerdydd (yn enwedig Ardaloedd Gweinidogaeth De Caerdydd neu Gabalfa a Thremorfa), Ardal Weinidogaeth Merthyr Tudful, Ardal Weinidogaeth Pontypridd ac Ardal Weinidogaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Os ydych chi'n dod o'r Ardaloedd Gweinidogaeth hyn, cysylltwch â ni.

Gallwch weld llawer mwy o wybodaeth am CAP, eu prosiectau, a'r effaith sylweddol a gân nhw ledled y Deyrnas Unedig, ar eu gwefan: www.capuk.org

Nid pob prosiect CAP fydd yn iawn i bob Ardal Weinidogaeth. Os oes gennych ddiddordeb i ystyried cyflwyno un o brosiectau CAP, eisiau cyngor ar ba un a allai fod orau i'ch ardal chi , neu gymorth i sefydlu un, yna mae'r tîm Allgymorth yma i helpu.

Cysylltwch â Christoph Auckland yr Uwch-swyddog Allgymorth, yn

christophauckland@churchinwales.org.uk

07949 567 047

Tlodi Mislif

Tlodi mislif yw diffyg mynediad i gynhyrchion mislif oherwydd cyfyngiadau ariannol. Roedd mwy nag un rhan o dair o fenywod a merched 14-21 oed y Deyrnas Unedig yn ei chael hi'n anodd fforddio neu sicrhau cynhyrchion mislif yn ystod y pandemig Coronafeirws, ac wrth i gostau byw waethygu, mae'r ffigurau hyn yn debygol o gynyddu. Rydyn ni’n credu y gall yr eglwys chwarae rhan enfawr mewn dileu tlodi mislif yng Nghymru, drwy ddarparu cynhyrchion mislif, yn rhad ac am ddim, mewn eglwysi, neuaddau eglwys a safleoedd eraill ar draws ein Hardaloedd Gweinidogaeth.

Mae Hey Girls yn elusen anhygoel sy'n helpu sefydliadau cymunedol i wneud yr union beth yma, drwy ddarparu cynhyrchion mislif organig sy’n dod o ffynonellau moesegol ac sy’n rhydd rhag creulondeb, i'w rhoi am ddim. Dylid trefnu bod y cynhyrchion ar gael i bawb, mewn ffordd gynnil, heb esgus, rhwymedigaeth na rhwystr.

Mae'r tîm yn Eglwys Gwenfrewi, Penrhiw-ceibr, wedi bod mewn partneriaeth â Hey Girls ers rhai blynyddoedd i gefnogi'r rhai mewn angen yn eu cymuned, lle mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol:

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Hey Girls ar eu gwefan: www.heygirls.co.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn partneru gyda Hey Girls i ddarparu cynnyrch yn eich eglwys chi, mae'r tîm Allgymorth yma i'ch cefnogi.

Cysylltwch â Christoph Auckland yr Uwch-swyddog Allgymorth, yn

christophauckland@churchinwales.org.uk

07949 567 047

Baby Basics

Mae Baby Basics yn brosiect dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n ceisio cefnogi mamau a theuluoedd newydd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â baich ariannol ac ymarferol gofalu am fabi newydd. Maen nhw’n darparu hanfodion ac offer y mae mawr eu hangen i'r mamau a'r teuluoedd hynny sy’n methu darparu'r eitemau hyn drostyn nhw eu hunain; fel mamau yn eu harddegau, pobl sy'n ceisio lloches, a menywod sy'n dianc rhag camdriniaeth ddomestig.

Drwy weithio gyda bydwragedd, ymwelwyr iechyd, a grwpiau proffesiynol eraill, nod Baby Basics yw darparu cymorth yn uniongyrchol lle mae ei angen fwyaf drwy ddarparu 'Basged Moses' o ddillad, pethau ymolchi, ac offer babanod hanfodol i famau newydd, yn ogystal â chynnig offer mwy fel pramiau a chotiau lle mae angen y rheiny.

Ar hyn o bryd mae tri safle Baby Basics yn yr esgobaeth, un ym Mro Morgannwg sy'n cael ei redeg gan Eglwys Deuluol Coastlands, y Barri, a dau gan ein heglwysi anhygoel – Baby Basics Penrhiw-ceibr sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr anhygoel Eglwys Gwenfrewi, a Baby Basics Port Talbot o'r tîm anhygoel yn Eglwys y Santes Fair. Cysylltwch â'r canolfannau hyn yn uniongyrchol os oes gennych ddiddordeb mewn casglu a rhoi eitemau: mae rhestr o'r hyn sydd ei angen a'r cyflwr angenrheidiol i'w gweld ar-lein yn www.baby-basics.org.uk/how-to-get-involved/giving-supplies

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Baby Basics ar eu gwefan: www.baby-basics.org.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu safle Baby Basics yn eich eglwys neu’ch ardal weinidogaeth chi, mae'r tîm Allgymorth yma i'ch cefnogi, gan gynnwys help i sicrhau grant gan gronfa’r Rhwydwaith Cinnamon.

Cysylltwch â Christoph Auckland yr Uwch-swyddog Allgymorth, yn

christophauckland@churchinwales.org.uk

07949 567 047

Llesiant

Picture of a lake

Mae brwydro gyda chostau byw yn cael effaith enfawr ar ein llesiant emosiynol. Bydd llawer o rieni yn dewis mynd heb fwyd er mwyn bwydo’u plant, neu’n diffodd y gwres i leihau biliau. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw llygad am lesiant emosiynol y rhai o'n cwmpas wrth inni estyn allan i ateb eu hanghenion corfforol uniongyrchol.

Gwyliau

Er bod gwyliau'n ymddangos yn foethusrwydd, i lawer maen nhw'n gyfle i deuluoedd gael amser o safon gyda'i gilydd, i ffwrdd o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gallan nhw feithrin cydberthnasau ystyrlon sy'n cryfhau bondiau. I gynifer mae'r syniad o wyliau yn freuddwyd bell, breuddwyd sydd hyd yn oed yn fwy annhebygol wrth i gostau gynyddu.

Mae gan ein ffrindiau anhygoel yn Undeb Mamau Llandaf garafán sefydlog ym Mae Trecco, Porthcawl, sydd ar gael am ddim i deuluoedd yn Llandaf am wythnos o wyliau. Mae Undeb y Mamau hefyd yn darparu teganau, llyfrau a rhai talebau bwyd yn ystod eu harhosiad. Gall clerigwyr wneud atgyfeiriad i Undeb y Mamau er mwyn i deulu gael gwyliau. Cysylltwch â Lowrie Washington Jones, Cydlynydd Gweithredu ac Allgymorth Undeb Mamau Llandaf, yn lowriej@mothersunionllandaff.org neu ffoniwch 02922 218 982.

Camdriniaeth Ddomestig

Mae straen ariannol yr argyfwng costau byw yn debygol o roi mwy o gyfleoedd i'r sawl sy'n cyflawni camdriniaeth ddomestig reoli eu partneriaid. Mae 16% o oedolion y Deyrnas Unedig wedi profi camdriniaeth economaidd mewn perthynas agos, ac amcangyfrifir bod £14.4 biliwn o ddyled yn y Deyrnas Unedig ynghlwm yn uniongyrchol â chamdriniaeth economaidd. Bydd y diffyg mynediad at arian a lefelau uchel o ddyled yn creu rhwystrau enfawr i oroeswyr sy'n ceisio byw'n annibynnol, gan eu dal gyda'u camdriniwr o bosibl. Mae mamau yn arbennig yn wynebu colli eu plant, gan fod tadau'n tueddu i fod â mwy o arian a gwell adnoddau i ymladd dros gadw’r plant.

Mae'r esgobaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod o leiaf un eglwys ym mhob Ardal Weinidogaeth yn cofrestru fel un o Sefydliadau Disglair Restored. Rhwydwaith o eglwysi ledled y wlad yw Sefydliadau Disglair Restored, ac maen nhw’n sefyll gyda'i gilydd yn erbyn trais ar sail rhywedd a chamdriniaeth ddomestig gan ddarparu man diogel i oroeswyr. Maen nhw’n ceisio creu eglwysi mwy diogel i'r rhai sy'n cael eu cam-drin a herio'r normau diwylliannol a chymdeithasol sy'n cyfiawnhau neu'n anwybyddu trais yn erbyn menywod.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am Sefydliadau Disglair Restored ar wefan Restored yn www.restored-uk.org . Os oes gennych ddiddordeb yn eich eglwys neu'ch Ardal Weinidogaeth chi mewn cymryd rhan fel un o Sefydliadau Disglair Restored, anfonwch neges ebost ata i yn christophauckland@churchinwales.org.uk.

Eiriolaeth

Senedd sign
Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn; cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.
Diarhebion 31.8-9

Pan fyddwn yn siarad â'n gilydd, rydyn ni’n credu y gallwn ni ddefnyddio’n llais i sicrhau newid gwirioneddol ar lefel wleidyddol – boed hynny dros faterion datganoledig yn y Senedd neu'r Deyrnas Unedig gyfan yn San Steffan.

Mae’r argyfwng costau byw presennol yn deillio o amrywiaeth cymhleth o achosion, a does dim atebion syml. Ond, mae'r esgobaeth yn teimlo bod modd gwneud llawer mwy i gefnogi'r rhai sy'n debygol o wynebu anhawster yn y misoedd nesaf.

Budd-daliadau

Mae miloedd o staff a gwirfoddolwyr ledled y wlad yn gweithio'n ddyddiol i helpu pobl yn eu cymunedau ond, fel y dywed Ymddiriedolaeth Trussell, ddylen nhw ddim gorfod codi’r darnau yn sgil diffyg gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wyneb argyfwng o'r raddfa hon. Rydyn ni’n ymuno â galwad Ymddiriedolaeth Trussell ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu taliadau budd-daliadau ar frys o leiaf 7% er mwyn cadw i fyny â chwyddiant ac, yn y tymor hirach, gyflwyno ymrwymiad yn y system fudd-daliadau i sicrhau bod gan bawb ddigon o arian yn eu pocedi i atal ansefydlogrwydd. Gallwch lofnodi deiseb Ymddiriedolaeth Trussell ar-lein yma: https://action.trusselltrust.org/Cost-of-living-petition

Cyflog Byw

Gyda'n partneriaid yn Dinasyddion Cymru, mae Esgobaeth Llandaf wedi bod yn cefnogi'r ymgyrch Cyflog Byw ledled Cymru. Mae'r ymgyrch Cyflog Byw, a lansiwyd gan Citizens UK yn 2001, wedi ennill dros £1.8 biliwn o gyflogau ychwanegol, gan godi dros 260,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig allan o dlodi gwaith. Ochr yn ochr â Dinasyddion Cymru, rydym yn ymgyrchu i ofyn i gyflogwyr, yn enwedig byrddau iechyd ac awdurdodau lleol Cymru, gamu i fyny a sicrhau bod eu holl staff a chontractwyr, o lanhawyr i swyddogion diogelwch i staff arlwyo, yn cael o leiaf y Cyflog Byw go iawn – £9.90 ar hyn o bryd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymgyrch dros gyflog byw gyda Dinasyddion Cymru, gallwch anfon neges at Drefnydd Cymunedol Dinasyddion Cymru, Richard Weaver, yn richard.weaver@citizenswales.org.uk.

Ysgrifennu at eich Aelod Seneddol/Aelod o’r Senedd

Mae Costau Byw yn mynd i effeithio ar lawer o bobl mewn gwahanol ffyrdd, ac rydym am eich helpu i godi’ch llais chi dros gyfiawnder ar y materion penodol sy'n bwysig i chi. Mae ysgrifennu at eich Aelod Seneddol neu'ch Aelod o'r Senedd yn ddull syml ond effeithiol i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a gyda'n gilydd gallwn roi hwb i'r llais hwnnw a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Aelod Seneddol a'ch Aelod o'r Senedd yma: https://www.writetothem.com/. Os hoffech gael rhywfaint o gyngor neu gefnogaeth wrth ysgrifennu at eich Aelod Seneddol neu’ch Aelod o'r Senedd, yna rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â Christoph Auckland, yr Uwch Swyddog Allgymorth, yn christophauckland@churchinwales.org.uk

Gweddi

Man praying in church

Hollalluog a thrugarocaf Dduw,

Daliwch ger dy fron bawb y mae bywyd yn anodd iddynt.

Y rhai sy'n gorfod dewis rhwng bwyd a gwres,

y rhai sy'n ofni newyn neu gael eu troi allan,

y rhai sy'n mynd heb bethau fel nad yw eu plant yn gwneud hynny.

Agor ein llygaid i'w brwydr,

agor ein clustiau i'w hanghenion,

ac agor ein calonnau i ymateb.


Boed i ni beidio byth ag anghofio mai'r hyn a wnawn i'r lleiaf yn y byd,

rydym yn ei wneud i ti.

Una ni i gyd yn dy waith o drugaredd a gwasanaeth,

cyffrô ni i helpu pawb sy'n cael trafferth yn ein cymunedau,

a grymusa ni i ymladd dros gyfiawnder ac yn erbyn tlodi a gormes.


Caniatâ’r pethau hyn, Dad, er cariad dy Fab Iesu Grist,

sy’n byw ochr yn ochr â ni yn anhawster a llanast ein bywydau dynol.

Amen