Hafan Cyfathrebu ac Estyn Allan Dydd Sul Adferiad 2024

Dydd Sul Adferiad 2024

Bydd dydd Sul 27ain o Hydref, 2024, yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru.

Unwaith eto eleni, nodwyd Sul fel Sul Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyried sefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o ryw fath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’r help sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadau megis ‘Adferiad Recovery’, y Stafell Fyw, Cynnal, Enfys, a chyflenwyr eraill. Mae hefyd yn gyfle i weithredu yn ymarferol i estyn cymorth. Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith i rai, tra y bydd eraill yn cymryd sylw newydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13, 3 “Daliwch ati i gofio’r rheiny sy yn y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain!” Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdur y llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed, dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o bobl heddiw.

Meddai Wynford Ellis Owen, Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol, ac arweinydd Cynnal, y gwasanaeth cwnsela i glerigion, gweinidogion yr efengyl, gweithwyr Cristnogol, a’u teuluoedd: ef, hefyd, sy’n gyfrifol am y Stafell Fyw, ac Enfys, y gwasanaeth cwnsela i feddygon a gweithwyr iechyd yng Nghymru.

“Mae’n hen bryd herio’r syniad fod dibyniaeth yn rhywbeth gwarthus, rhywbeth i’w guddio. Hyd yn oed mewn bywyd eglwys, mae pobl a theuluoedd yn brwydro yn erbyn dibyniaeth.

“Mae pawb yn gwella o ryw gyflwr neu’i gilydd - boed yn blentyndod anodd, profedigaeth ddiweddar, colli swydd, cancr neu salwch arall. Mae Sul Adferiad yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a dechrau siarad yn agored am adferiad. Mae egwyddorion adfer yn ymestyn tu hwnt i’r defnydd o gyffuriau, tu hwnt i’r defnydd o alcohol - maent yn berthnasol i bob un ohonom.”

Mae’r gwasanaeth eleni wedi ei baratoi gan Rhys Powys, cyfarwyddwr dramâu teledu arobryn, a bydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru ar fore Sul 27ain o Hydref - a bydd croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn eich eglwysi.

Yn y gwasanaeth, mae’r awdur yn cwestiynu ei hawl i baratoi’r gwasanaeth yn y lle cyntaf, “Pwy ydw i i fynd ati i lunio gwasanaeth ar thema “adferiad”. Dwi erioed wedi gwneud o’r blaen. Pa hawl sydd gen i i ddweud unrhyw beth am “gaethiwed” neu “ddibyniaeth”? Pa hawl sydd gan unrhyw un i roi eu hunain yn sgidiau rhywun arall? I wneud datganiadau am rywbeth nad ydyn nhw wedi’i brofi yn uniongyrchol; nad ydyn nhw wedi cael profiad personol ohono?”

Dyma drydedd ar ddegfed Sul Adferiad Cymru. Ar y Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru i uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, yn ddibynnol; gan ofyn i Dduw ein helpu ni i’w helpu nhw.

Ein defnydd o gwcis

Rydyn ni’n defnyddio cwis angenrheidiol i wneud i'n safle weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dadansoddi sy'n ein helpu i wneud gwelliannau drwy fesur sut rydych chi'n defnyddio'r safle. Bydd y rhain yn cael eu gosod dim ond os ydych chi'n eu derbyn. I gael gwybodaeth fanylach am y cwcis rydyn ni'n eu defnyddio, edrychwch ar ein tudalen Cwcis.

I gael gwybodaeth fanylach am y cwcis rydyn ni'n eu defnyddio, edrychwch ar ein tudalen Cwcis

Cwcis angenrheidiol

Ymlaen
I ffwrdd

Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi swyddogaethau craidd fel diogelwch, rheoli rhwydwaith, a hygyrchedd. Gallwch analluogi'r rhain trwy newid gosodiadau eich porwr, ond gall hyn effeithio ar sut mae'r wefan yn gweithredu.

Cwcis dadansoddi

Ymlaen
I ffwrdd

Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi’n ei defnyddio. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, ewch i’n 'Tudalen Cwcis'.

Eich dewisiadau preifatrwydd ar gyfer y wefan hon

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis a thechnolegau storio gwe eraill i wella'ch profiad y tu hwnt i'r swyddogaethau craidd angenrheidiol.