Hanes yr Esgobaeth
Mynachod o Iwerddon a wnaeth yr ymdrechion cyntaf i sefydlu’r ffydd Gristnogol yn yr ardal sy’n cael ei hadnabod fel Morgannwg, a hynny yn y 5ed ganrif a’r 6ed. Bu sylfaenydd y fynachlog Geltaidd yn Llancarfan, Cadog, yn rheoli Morgannwg fel abad-frenin. Sefydlodd Illtud ysgol fynachaidd yn Llanilltud Fawr, a daeth honno’n bur enwog, gan lunio llawysgrifau a henebion carreg cerfiedig cain, nifer ohonynt yn dal i’w gweld yn yr eglwys bresennol yno. Mae Dyfrig (tua 450-540) yn cael ei gofio fel esgob cyntaf yr ardal, cyn cael ei olynu gan Teilo.
Er hynny, y trydydd esgob, Euddogwy, a ymsefydlodd yn Llandaf a hynny ar ddiwedd y 6ed ganrif, gan greu’r “deyrnas-esgobaeth” Geltaidd. Ym 1121, dechreuodd esgob Normanaidd cyntaf Llandaf, Urban, adeiladu eglwys gadeiriol newydd o garreg, ac mae rhannau ohoni’n aros – colofnau enfawr, waliau trwchus a bwâu hardd. Ychwanegodd Urban ddau enw at gysegriad y gadeirlan, ac felly mae hi heddiw yn cael ei hadnabod fel Eglwys Gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul, gyda Dyfrig, Teilo ac Euddogwy.
Mae gan Eglwys Gadeiriol Llandaf hanes brith o adeiladu a dadfeilio, a chafwyd y dinistr mwyaf diweddar ar 2 Ionawr 1941 pan gafodd ei difrodi’n ddifrifol iawn gan ffrwydryn tir. Adferwyd y Gadeirlan wedyn ac ychwanegu gwaith ati, yn fwyaf arbennig y bwa a’r pwlpitwm concrid, sy’n cynnal y cerflun Majestas gan Syr Jacob Epstein.
Yn ystod yr Oesoedd Canol y cafodd llawer o eglwysi presennol yr esgobaeth eu codi, yn enwedig yn y Fro ac ar y glannau. Roedd llawer o’r rhain dan nawdd dau Abaty Sistersaidd yr esgobaeth, ym Margam a Chastell-nedd. Ymatebodd yr Eglwys i ddatblygiad diwydiannol mawr y 19eg ganrif drwy ddarparu eglwysi ac ysgolion i boblogaeth gynyddol y Cymoedd.
Mae’r newidiadau cymdeithasol ac economaidd mwyaf diweddar wedi creu problemau a thensiynau o fewn yr esgobaeth, gyda chynnydd mewn diweithdra ac amddifadedd cymdeithasol, yn enwedig yn y Cymoedd, ond mae’r Eglwys wedi ceisio chwarae ei rhan ochr yn ochr ag asiantaethau eraill. Mae’r Eglwys hefyd yn ymateb i heriau ysbrydol ein hoes, ac yn symud ymlaen â gobaith, dan gyfarwyddyd ac arweiniad Duw.