Galwedigaeth a Galw
Agweddau ar Alwedigaeth
Y darlun sydd gennym yn yr Ysgrythur yw bod pob Cristion yn chwarae rhan annatod yng nghynlluniau Duw yn y byd hwn ac wrth inni roi sylw arbennig yn ein gweddïau gallwn sicrhau gwell ymdeimlad o gael ein cadarnhau a’n bendithio yn ein bywyd bob dydd. Mae archwilio’r alwad hon i fod yn ffrwythlon yn Nheyrnas Dduw lle rydyn ni yn rhan naturiol o fod yn ddisgybl i Iesu. Gall pob math o agweddau ar ein bywyd gael eu deall fel ffyrdd y mae Duw yn ein defnyddio i fendithio eraill: y gymuned rydyn ni’n byw ynddi, ein haelwyd a’n perthnasoedd, ein gwaith a’n hamdden, prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi a delfrydau sy’n bwysig i ni. Y ffaith wych amdani yw bod Duw yn ein defnyddio ‘fel yr ydym’ ac mae’n bosibl datgloi’r potensial ysbrydol ynom ni sydd heb ei ddefnyddio eto pan fyddwn yn cydnabod ac yn ceisio cyfarwyddyd Duw dros ein galwad bob dydd.
Mae llawer o bobl yn ymestyn yr ymdeimlad o alwedigaeth i genhadaeth a bywyd yr eglwys, gan arddel gweinidogaethau llawn a gweithgar fel wardeniaid eglwys, trysoryddion eglwys, y rhai sy’n darllen ac yn arwain gweddïau, trefnwyr blodau, y rhai sy’n croesawu ac yn cynnig lletygarwch, gweithio mewn grwpiau plant a grwpiau ieuenctid, cymorth profedigaeth, gwirfoddolwyr banciau bwyd, gweinyddiaeth a llawer mwy. Gall cymryd rhan yn y ffyrdd hyn yn aml ddod o ymdeimlad o argyhoeddiad mewnol a bod hon yn rôl i mi yn yr eglwys, tra bo eraill yn eu cael eu hunain yn y rôl am fod angen i’r gwaith gael ei wneud ac mai nhw sydd fwyaf addas i’w wneud. Beth bynnag a’n harweiniodd i’r rolau hyn, gall myfyrio arnyn nhw fel ein galwedigaeth ein gweddnewid ni a’r gallu i wneud daioni y gallan nhw ei greu.
Mae rhai rolau yn yr eglwys yn gofyn am lefelau uwch o ddirnadaeth a hyfforddiant cyn y gall rhywun ddechrau eu harfer. Mae’r rhain yn cael eu trwyddedu gan esgob yr esgobaeth a chyfeirir atyn nhw fel arfer fel ‘gweinidogaethau trwyddedig’ megis gweinidogaethau ordeiniedig, gweinidogaeth darllenwyr, ymwelwyr bugeiliol lleyg a gweinidogaeth arloesol leyg mewn ardaloedd er mwyn adeiladu’r eglwys mewn ffyrdd newydd. Pan fydd rhywun yn cydnabod ymdeimlad bod Duw yn ei alw i ystyried galwedigaethau fel y rhain yna bydd yr esgobaeth am neilltuo cefnogaeth i’r unigolyn er mwyn canfod i ble y gallai hyn fod yn arwain.
Archwiliwch eich galwedigaeth
Mae hi bob amser yn bleser gwybod bod pobl yn cydnabod ymdeimlad o alwedigaeth. Gallai hyn fynegi ei hun fel teimlad y tu mewn, ysgogiad drwy weddïo ac addoli, geiriau calonogol gan bobl eraill, penllanw proses sydd wedi bod ar y gweill yn y cefndir ers tro, neu awydd i roi cynnig ar rywbeth newydd...
Lle da i ddechrau o bosibl yw eich cynulleidfa leol a’ch offeiriad lleol a thîm arwain yr eglwys leol a ddylai’ch adnabod yn ddigon da i awgrymu ffyrdd ymlaen.
Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm galwedigaethau sy’n bobl yn yr esgobaeth o wahanol gefndiroedd, ac sydd yma i gefnogi unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am y modd y mae Duw yn eu tynnu tuag at rywbeth newydd yn eu bywyd ysbrydol.
Bydd eiriolwr galwedigaethau’r esgobaeth yn gallu cynnig cymorth os hoffech feddwl am yr ymdeimlad cyffredinol o alwedigaeth sy’n ymwneud â’r hyn y mae Duw yn eich galw iddo mewn cysylltiad â’ch gwaith, eich rôl gymunedol, bod yng nghynulleidfa’ch eglwys leol, camau newydd o’ch blaen mewn bywyd... Mae’r esgobaeth yn cynnal rhaglen fer o sesiynau sy’n helpu pobl i wrando ar Dduw a phwyso a mesur eu galwadau. Maen nhw’n gweithredu fel lle diogel i feddwl am sut mae Duw wrthi’n siapio’n bywyd, i ddod yn fwy gofalus yn ein gweddïau ac i feithrin agwedd ysbrydol o fod yn agored i gyfarwyddyd Duw.
- Eiriolwr Galwedigaethau’r Esgobaeth yw’r Parchedig Peter Lewis.
Os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich galw i weinidogaeth benodol neu os nad ydych yn siŵr beth allai’ch galwedigaeth fod yn yr eglwys, yna efallai y byddai’n werth cael sgyrsiau gyda chlerigwyr eich plwyf ac ystyried eich ymdeimlad o alwedigaeth ymhellach. Dyma ddechrau taith gyffrous o ddirnadaeth.
Os daw ymdeimlad o alwedigaeth yn glir ac os dylai’r alwedigaeth gael ei harchwilio ymhellach, y cam nesaf fyddai cysylltu ag un o gynghorwyr galwedigaethau’r esgobaeth. Dylai clerigwyr plwyf a chaplaniaid gyfeirio ymgeiswyr dirnadaeth at y cynghorwyr galwedigaethau a ganlyn:
- Deoniaethau Llandaf, Caerdydd, Penarth a’r Barri – Y Parchedig Ganon precentor@llandaffcathedral.org.uk
- Deoniaethau Pen-y-bont ar Ogwr, Margam, Castell-nedd, Bro Morgannwg – Y Parchedig maggie53thorne@gmail.com
- Deoniaethau Pontypridd, Rhondda, Cwm Cynon, Merthyr Tudful a Chaerffili – Y Parchedig b.t.rabjohns@gmail.com