Lles Ysbrydol
Defnyddio Labrinth Cristnogol
Mae labrinthau’n symbolau ysbrydol o bererindod i Gristnogion ers canrifoedd. Mae pererindod yn cynnig cyfle inni agor ein calonnau a’n meddyliau a cherdded yn ostyngedig gyda Duw... ac ar y daith sanctaidd hon gallwn ddysgu ychydig mwy amdanon ni’n hunain, ystyried syniadau a theimladau a dirnad ffyrdd newydd a allai fod o’n blaen. Mae taith labrinth hefyd yn ffordd o groesawu presenoldeb sanctaidd Duw i’n bywydau.
Labyrinth Bys
Profi Ymwybyddiaeth Ofalgar Gristnogol
Profwch heddwch Duw yn ystod y cyfyngiadau symud gyda’n cyfres Ymwybyddiaeth Ofalgar Gristnogol. Mae’r sesiynau’n para rhwng 10 ac 20 munud ac fe’u cynhelir gan y Parchedig Caroline Downs, Plwyf Cathays.
Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Y Parchedig Caroline Downs sy’n rhannu ei syniadau ar ofalu am eich llesiant ysbrydol a meddyliol.
Y Fam Pauline Smith sy’n blogio am ei phrofiad o fyw gyda gorbryder ac iselder.
Yr Ordinand Ruth Greenway-Robbins, sydd ar leoliad yn Eglwys Sain Ffagan, Aberdâr sy’n pwyso a mesur sut mae cyfyngiadau symud y Deyrnas Unedig yn effeithio arnom yn ein ffyrdd unigol ein hunain, ac eto i gyd fod presenoldeb cyson Crist yn ein bywydau yn ein cynnal.