Adnoddau ar gyfer Gŵyl Ddewi
Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac welsoch gennyf fi. A minnau a gerddaf y ffordd y aeth ein hynafiaid iddi, ac iach i chwi
Geiriau olaf Dewi Sant
Lawrlwytho'r adnoddau ar gyfer Gŵyl Ddewi, Nawddsant Cymru Adnoddau ar gyfer Gwyl Ddewi St David's Day resources
Cyhoeddi'r Gair
Darlleniadau ar gyfer y Cymun Bendigaid
Ecclesiasticus 15:1-6 neu Jeremeia 1:4-10
Salm 16: 3, 5-8
I Thesaloniaid 2: 2b-12
Mathew 16:24-27
Darlleniadau ar gyfer y Foreol neu’r Hwyrol Weddi
Salm 92
Eseciel 2:1-7
II Timotheus 4:1-8
Colect ar gyfer Gŵyl Ddewi
Dduw ein Tad,
rhoddaist Dewi Sant i bobl Cymru,
i gynnal y ffydd.
Wedi ein hannog gan ei esiampl,
bydded i ni lynu’n llawen wrth y pethau
sy’n arwain at fywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y byddo’r holl anrhydedd a gogoniant,
yn awr ac am byth. Amen.
Gweddi ôl-Gymun
Hollalluog Dduw
deffra ynom sêl dy was Dewi
fel y dilynom di ag unplygrwydd calon,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Ymbiliau addas
Dywedodd Dewi, “Byddwch lawen, cedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain.
Heddiw wrth inni gofio Dewi, nawddsant Cymru, gweddïwn ar Dduw sy’n codi pobl ymhob cenhedlaeth i fod yn dystion ffyddlon i’w fab, ein Harglwydd Iesu Grist.
Cynorthwya’r Eglwys i gerdded yn llawen ac yn ffyddiog yn llawenydd ei ffydd a’i chred yn yr efengyl. Nertha bawb sy’n arwain bywyd yr eglwys....Wrth inni gyhoeddi’r efengyl i’r genhedlaeth hon helpa ni i wneud y pethau bychain sy’n dwyn goleuni a chariad Crist i fywydau pobl eraill.
Arglwydd, yn dy drugaredd.
Gwrando ein gweddi.
Wrth inni ymhyfrydu yn ein treftadaeth gyfoethog a’r diwylliannau amrywiol sy’n rhan o wead y Cymru gyfoes, gofynnwn am dy arweiniad a dy ddoethineb ar bawb sy’n lliwio bywyd y genedl hon, dros aelodau Senedd Cymru ac arweinyddion y cynghorau lleol fel y cynyddir dealltwriaeth ac undod oddi mewn i’n cymunedau i weithio dros lles pawb.
Arglwydd, yn dy drugaredd.
Gwrando ein gweddi.
Yr wyt ti wedi creu amrywiaeth o genhedloedd, pobl ac ieithoedd ar y ddaear, ac eto yr ydym oll yn rhan o’r un ddynoliaeth wedi’n creu ar dy lun dy hun. Ymunwn â llef dy blant sy’n dioddef o ganlyniad i ryfel....newid hinsawdd....trychinebau naturiol.... Boed i symlrwydd bywyd Dewi ein hysbrydoli i fyw yn gytûn â’n gilydd a’r greadigaeth gyfan.
Arglwydd, yn dy drugaredd.
Gwrando ein gweddi.
Yn ein hymwneud â’n gilydd ysbrydola ni i fod yn dystion loyw o’r llawenydd sydd yn eiddo i ni oherwydd ein hymddiriedaeth yn dy Fab Iesu Grist ymhlith aelodau o’n teuluoedd, ein cymdogion a’n cyd-weithwyr.
Arglwydd, yn dy drugaredd.
Gwrando ein gweddi.
Yn dilyn yn ôl traed dy Fab Iesu Grist, aeth Dewi Sant oddi amgylch gan ddangos gofal dros bawb a oedd yn dioddef. Bendithia bawb sy’n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd a thros bawb sydd gofalu am eraill. Cofiwn ger dy fron bawb sy’n dioddef, y diwrnod hwn, mewn corff, meddwl neu ysbryd.....gan weddïo ar i ti eu hachub a’u cadw yn dy gariad.
Arglwydd, yn dy drugaredd.
Gwrando ein gweddi.
Gwrnado arnom wrth inni gofio’r rhai sydd yn y bywyd hwn wedi cadw’r ffydd, ac wedi ymdrechu’r ymdrech lew, ac wedi rhedeg yr yrfa i’r pen, ac sydd wedi marw yn dy hedd di.... Boed iddynt orffwys yn dy ofal tragwyddol.
Arglwydd, yn dy drugaredd.
Gwrando ein gweddi.
Gan ymlawenhau yng nghymundeb Dewi Sant a’r holl saint, cyflwynwn ein hunain a’r greadigaeth gyfan i’th gariad di-ffael.
Dad trugarog
derbyn y gweddïau hyn
er mwyn dy Fab,
ein gwaredwr Iesu Grist. Amen.
Diweddiadau
Dad Hollalluog,
adeiledaist dy Eglwys
trwy gariad ac ymgysegriad dy saint:
ysbrydola ni i ddilyn esiampl Dewi,
a goffawn heddiw,
fel y bo inni ‘r diwedd lawenhau gydag ef weld dy ogoniant;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist,
a chariad Duw,
a chymdeithas yr Ysbryd Glân
a fo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.
Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
A hefyd gyda thi.
Bendithiwn yr Arglwydd.
I Dduw y bo’r diolch.
Emynau
Lawrlwytho awgrymiadau emynau Adnoddau ar gyfer Gwyl Ddewi St David's Day resources
Geiriau Olaf Dewi Sant
Arglwyddi, frodyr a chwiorydd,
Lords, brothers and sisters,
byddwch lawen
be joyful
a chedwch eich ffydd a'ch cred,
keep your faith and your creed
a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.
and do the little things that you have seen and heard me do.