Gŵyl ffydd yn Abaty Margam ddydd Sadwrn yma
Mae Abaty Margam yn cynnal gŵyl ffydd ddydd Sadwrn yma 14 Mai pryd y disgwylir i gannoedd o bobl o bob rhan o Esgobaeth Llandaf ymuno yn y diwrnod a fydd yn llawn syniadau a gweithgareddau i ddifyrru ac ysbrydoli.
Nod y Ffair Weinidogaethau yw helpu pobl i dyfu yn eu bywydau ysbrydol trwy ddod o hyd i le o fewn eu heglwys leol. Mae hefyd wedi'i hanelu at bobl sydd eisiau cymryd mwy o ran i gefnogi eu cymuned leol trwy gefnogi ymgyrchoedd eglwysig megis newid hinsawdd a chostau byw.
Bydd sefydliadau fel Cristnogion yn Erbyn Tlodi, Cymorth Cristnogol a Citizens Cymru wrth law i drafod eu hymgyrchoedd a siarad â phobl sydd am gymryd rhan mewn allgymorth lleol.
Bydd y Ffair Weinidogaethau yn cynnwys llawer o weithgareddau cyffrous i'r teulu cyfan, fel Picnic Tedi Bêrs, adrodd straeon a sioe bypedau. Mae’r gweithgareddau ysbrydol yn cynnwys cerdded labyrinth Cristnogol, gweddïo gyda'r tîm gweddïo ac addoliad awyr agored. Bydd yr ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i ymarfer caligraffeg gyda Huw, Mynach Sistersaidd.
Mae’r Parch Peter Lewis, sydd wedi trefnu’r digwyddiad hwn, yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y diwrnod yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan yn eu heglwys leol ble bynnag y bôn nhw ar eu taith ffydd.
“Mae’r eglwys leol yn aml yn arwain y ffordd o ran rhedeg banciau bwyd, ymgyrchu dros gostau byw neu weithio gyda grwpiau cymunedol i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym yn gwahodd pobl i ymuno â ni i archwilio sut y gallan nhw’n helpu ni i helpu ein cymunedau i fynd i'r afael â rhai o'r materion cyfoes hyn.
“Bydd tyfu’r ffydd Gristnogol bob amser wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac mae gennyn ni ddigonedd o weithgareddau ysbrydol a gweddigar a fydd yn helpu pobl i ddyfnhau eu perthynas â Christ.”
Cynhelir y Ffair Weinidogaethau yn Abaty Margam rhwng 11am a 4pm. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan Ministries Fair - LLandaff Diocese (churchinwales.org.uk)