Ail-greu gwasanaeth eglwys Cymraeg o'r 17eg ganrif i ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru
Ail-greu gwasanaeth eglwys Cymraeg o'r 17eg ganrif a dathlu’r offeiriad arloesol o Gymro, y Tad Griffith Arthur Jones, fydd dau o’r gweithgareddau yng Ngŵyl Treftadaeth gyntaf erioed Esgobaeth Llandaf, Eglwysi Agored.
Ddydd Sul 19 Mehefin, bydd eglwys restredig gradd II Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Llanfihangel y Bont-faen, yn cynnal ailgread o wasanaeth Hwyrol Weddi o’r 17eg ganrif, ar sail y Llyfr Gweddi Cymraeg a gyhoeddwyd ym 1621 gyda salmau cân, fel y byddai wedi cael ei gynnal gan yr Archddiacon Edmwnd Prys, ‘Salmydd Cymru’. Bydd y llithiau’n cael eu darllen o'r Beibl Cymraeg diwygiedig a gyhoeddwyd ym 1620.
Bydd y gwasanaeth yn Gymraeg ac yn cael ei arwain gan y Parchedig Dyfrig Lloyd, Ficer Eglwys Dewi Sant, Caerdydd.
Dywedodd y Parchedig Dyfrig, "Mae Llanfihangel y Bont-faen yn eglwys ganoloesol hardd heb drydan a chyfleusterau modern. Mae hi’n fan addoli Cristnogol ers dros fil o flynyddoedd. Mae'r lleoliad unigryw yma yn addas ar gyfer gwasanaeth yr Hwyrol Weddi o'r Llyfr Gweddi Gyffredin ac ar gyfer canu salmau mydryddol mewn ffordd ddigon syml.
"Ym 1621, ychydig dros bedwar can mlynedd yn ôl, cafodd argraffiad newydd o'r Llyfr Gweddi Gyffredin ei gyhoeddi yn Gymraeg a rhan ohono oedd salmau cân Edmwnd Prys i'w canu gan y gynulleidfa ar fydr cyffredin. Roedd hon yn foment arwyddocaol i'r Eglwys ac i emynyddiaeth Cymru gan ei fod yn annog cynulleidfaoedd i ganu yn Gymraeg ac yn gosod y sylfaen ar gyfer troi Cymru'n Wlad y Gân.
"Dewch i ymuno â'r gwasanaeth ac addoli yr Arglwydd ‘yn ysblander ei sancteiddrwydd’."
Yng Nghaerdydd, bydd Eglwys y Santes Fair yn Butetown yn cynnal digwyddiad dwyieithog i edrych ar gyfraniad offeiriad arloesol yn Eglwys y Santes Fair, y Tad Griffith Arthur Jones, tuag at yr Eglwys yng Nghymru a'r Gymraeg.
Mae'r digwyddiad, o'r enw Sgandal i fod wedi ei golli, a gynhelir ddydd Mercher 22 Mehefin am 7pm, wedi'i ysbrydoli gan erthygl a ysgrifennwyd gan y Tad Griffith mewn rhifyn o Gylchgrawn Plwyf y Santes Fair ym 1872, sy'n dweud, "Mae’n nawr yn nwylo Eglwyswyr Cymraeg Caerdydd i gynorthwyo’r Ficer yn ei ymdrechion i adfer yr hyn a oedd yn sgandal i fod wedi ei golli, sef Gwasanaethau Cymraeg yn yr Eglwys, yn hon, y bwysicaf o drefi yng Nghymru".
O dan arweiniad y Parchedig Dyfrig Lloyd a’r Tad Dean Atkins, bydd Sgandal i fod wedi ei golli yn edrych ar gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru at iaith a threftadaeth Cymru.
Dywedodd y Tad Dean, ficer Eglwys y Santes Fair, "Yn aml, dyw ffigurau'r gorffennol ddim mor bell i ffwrdd ag rydyn ni’n meddwl. Mae eu bywydau i’w teimlo ym mhopeth rydyn ni wedi'i etifeddu, ac un person o’r math yma yw’r Tad Jones. Er ei fod e wedi marw dros gan mlynedd yn ôl, mae ei law a'i galon ym mhobman yn Eglwys y Santes Fair ac yn y dreftadaeth a gawson ni.
"Roedd yn offeiriad dewr ei ffydd, a arloesodd gymaint ac a gryfhaodd dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol yr Eglwys. Fe wnaeth gyfraniad pwysig i'r Gymraeg ym mywyd ac addoliad yr Eglwys ac wrth arloesi'r adfywiad catholig yma yng Nghymru."
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Eglwysi Agored ac i archebu lle yn y digwyddiad hwn ewch yma Ail-greu gwasanaeth o'r Hwyrol Weddi o'r 17eg ganrif Tickets, Sun 19 Jun 2022 at 15:00 | Eventbrite