Lansio gŵyl treftadaeth eglwysig gyntaf y De ym mis Mehefin eleni
Bydd deg eglwys hanesyddol ar draws y De yn agor eu drysau ym mis Mehefin eleni ar gyfer yr Ŵyl Treftadaeth ‘Eglwysi Agored’ gyntaf. Mae Eglwysi Agored wedi’i drefnu gan Esgobaeth Llandaf yr Eglwys yng Nghymru a bydd yn rhedeg dros naw diwrnod o ddydd Sadwrn 18 Mehefin i ddydd Sul 26 Mehefin.
Bydd yr ŵyl yn dathlu pwysigrwydd hanesyddol eglwysi i dreftadaeth a diwylliant Cymru, ac yn hybu eu rôl yn y cymunedau lleol fel mannau ar gyfer llesiant ysbrydol ac ymgysylltu â'r gymuned.
Dewiswyd y deg eglwys oherwydd eu pwysigrwydd hanesyddol a'u hanes cudd. Gall selogion troseddau go iawn ddarganfod 'carreg lofruddio' o’r 19eg ganrif a dysgu mwy am lofruddiaeth Margret Williams ym 1822. I'r rhai sydd â diddordeb yn James Bond a chrefft y sbïwr, mae yna gofeb i sbïwr o’r Ail Ryfel Byd a ddaeth yn fynach wedyn.
Gall ymwelwyr hefyd roi cynnig ar ganu clychau, dylunio ffenest gwydr lliw, cerdded yng nghefn gwlad neu gymryd rhan mewn gweithgareddau eco yn un o'r nifer fawr o fynwentydd sy’n cynnig hafan werdd. Bydd cyfle hefyd i fwynhau lletygarwch traddodiadol yr eglwysi a chael te a chacennau cartref.
Dywedodd Sarah Perons, y Swyddog Datblygu Eglwysi, "Oherwydd Covid, dros y ddwy flynedd diwethaf mae’n heglwysi wedi gorfod aros ynghau gau am ran helaeth o'r amser. Erbyn hyn, mae’n hadeiladau yn agored eto ac rydym am annog eglwysi i fanteisio ar y cyfle i fod yn agored ac yn groesawgar i ymwelwyr. Rydym am roi profiad cadarnhaol a phleserus i bawb ar ôl Covid .
"Eglwysi yw rhai o'r adeiladau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru. Maen nhw’n aml yn cael eu disgrifio fel tirnodau mewn lle ac mewn amser. Maen nhw’n adrodd nid yn unig storïau eu cymunedau lleol ond hefyd naratif datblygiad celf a phensaernïaeth mewn cyd-destun Cymreig.
"Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn llawn lluniau hyfryd o bensaernïaeth a chelf eglwysig trawiadol ac rydym yn gwybod bod gan y cyhoedd gryn ddiddordeb mewn ymweld ag eglwysi ac mewn twristiaeth. Does dim angen ichi fynd i’r eglwys i fod â diddordeb yn ei hanes a'i phensaernïaeth leol. Gallwch werthfawrogi'r adeilad fel tirnod hanesyddol pwysig a hardd."
Mae Eglwysi Agored yn gobeithio denu pobl ffyddlon a phobl sydd heb ymweld ag eglwys erioed o'r blaen.
Dywedodd Christopher Catling, Cadeirydd Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru: "Dwi'n cymeradwyo'r fenter yma. Mae gan Gymru botensial mawr ar gyfer twristiaeth gynaliadwy ar sail ein treftadaeth gyfoethog o adeiladau eglwysig hanesyddol. Gobeithio y bydd yr ŵyl yn annog llawer mwy o eglwysi a chapeli i agor eu drysau yn y dyfodol, i groesawu ymwelwyr a rhannu'r nodweddion sy'n gwneud eglwysi, capeli a mynwentydd yn fannau mor arbennig."
Mae Eglwysi Agored yn gobeithio denu pobl ffyddlon a phobl sydd heb ymweld ag eglwys erioed o'r blaen. Drwy gynnal digwyddiadau diddorol i'r teulu cyfan, nod yr ŵyl yw hybu adeiladau eglwysig fel addoldai ac atyniadau i dwristiaid.
Dangosodd ymchwil ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yn 2018[1] y byddai chwarter oedolion Prydain yn debycach o ymweld ag adeilad eglwys, capel neu dŷ cwrdd fel gweithgaredd hamdden neu atyniad i dwristiaid, pe bai cyfleusterau cyfeillgar i ymwelwyr. Byddai un o bob pump yn debycach o ymweld pe bai digwyddiadau diwylliannol ar gael neu pe bai'r adeilad yn cael ei agor i ymwelwyr.
Dyw'r rhan fwyaf o'r 10 eglwys sy'n cymryd rhan yng Ngŵyl Eglwysi Agored ddim yn agored i ymwelwyr fel arfer, sef:
- Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd, CF5 2LA
- Eglwys y Forwyn Fair, Bute Street, Caerdydd, CF10 5HB
- Eglwys Catwg Sant, Llangatwg, SA10 8AS
- Eglwys Sant Thomas, Castell-nedd, SA11 3LL
- Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Llanfihangel y Bont-faen, Bro Morgannwg, CF71 7LQ
- Eglwys Sant Theodore, Port Talbot, SA13 1LE
- Eglwys Cynwyd Sant, Llangynwyd, Maesteg, CF34 9SB
- Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Beddau, Llantrisant, CF38 2BE
- Eglwys Sant Andras, Saint Andras, Bro Morgannwg, CF64 4HD
- Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Troed-y-rhiw, Merthyr Tudful, CF48 4EX
Mae Eglwysi Agored yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 18 Mehefin yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac mae'n cynnwys Alys Huws, telynores swyddogol Tywysog Cymru, cerddorion ifanc o'r prosiect arobryn 'Gwneud Cerddoriaeth Newid Bywydau’ yn Nhrelái, Caerdydd, yn ogystal â theithiau o amgylch tŵr y Gadeirlan, eco-hwyl i blant yn y fynwent a gweithdy dylunio gwydr lliw.
Mae Eglwysi Agored yn digwydd dydd Sadwrn 18 – dydd Sul 26 Mehefin. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Gŵyl 'Eglwysi Agored’ - Esgobaeth Llandaf (churchinwales.org.uk)
Nodiadau i olygyddion
- Cyfwelodd ComRes â 2,037 o oedolion ym Mhrydain Fawr ar-lein rhwng 14 a 16 Medi 2018. https://comresglobal.com/polls/national-churches-trust-visiting-churches-survey/