Hafan Cyfathrebu ac Estyn Allan Pecynnau Offer Cenhadaeth Apêl Argyfwng Wcráin

Apêl Argyfwng Wcráin

Ukrainian Flag
Mae Esgobaeth Llandaf yn sefyll mewn undod â’n chwiorydd a’n brodyr yn Wcráin. Rydym yn condemnio ymosodiad milain a diesgus Rwsia ar wlad ddemocrataidd a gweddïwn dros ateb heddychlon a chyflym.
Y Gwir Barchedig June Osborne Esgob Llandaf

Rhagymadrodd

Cafodd y byd ei uno mewn sioc yr wythnos diwethaf pan lansiodd lluoedd Ffederasiwn Rwsia ymosodiad diesgus ar Wcráin. Mae’r ymladd yn dal i ddwysáu ac mae argyfwng dyngarol wedi datblygu yn Wcráin ac ar ei ffiniau gorllewinol wrth i filoedd o sifiliaid chwilio am noddfa. A ninnau’n Gristnogion, mae’n hymateb ni ar adegau o argyfwng wedi’i wreiddio mewn gweddi. Mae yna nerth mewn galarnadu gyda phobl Wcráin, sefyll mewn undod yn ein galar dros y diniwed a’r ofnus, a gweddïo dros heddwch. Fel eglwys, ac fel cenedl, mae angen inni gamu i fyny dros bobl Wcráin, uno i ddarparu’r dillad, y cynhyrchion mislif, y meddyginiaethau a’r cyflenwadau sydd eu hangen ar bobl Wcráin; codi arian i'r asiantaethau hynny ar lawr gwlad sy'n cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn Wcráin, a herio'r Llywodraeth i wneud mwy i gynnig lloches a noddfa yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig i'r rhai sy'n ceisio diogelwch i ffwrdd o'u cartrefi.

Sut gallwch chi helpu

Casgliadau

Anogir y rhai sy'n dymuno cynnig cymorth ymarferol i gasglu a rhoi i'r apêl frys sydd wedi’i threfnu gan Polonia dla Ukrainy (Y Gymuned Bwylaidd dros Wcráin). Maen nhw'n casglu eitemau ledled y De sy'n cael eu crynhoi yng Nghasnewydd cyn cael eu gyrru i'r ffin rhwng Gwlad Pwyl ac Wcráin i gefnogi ffoaduriaid yno. Mae hon yn sefyllfa gyfnewidiol iawn ac mae Polonia dla Ukrainy wedi’u llethu gan gefnogaeth. Maen nhw wedi gofyn i bobl beidio â rhoi tra byddan nhw wrthi’n clirio’u warysau. Byddwn yn diweddaru'r pecyn cymorth yma pan fydd y sefyllfa'n newid. Pan fydd y casgliadau’n agored eto, dyma’r pwyntiau casglu y mae Polonia dla Ukrainy wedi’u cadarnhau:

Pen-y-bont ar Ogwr

Sklep u Pauli, 8 Derwen Road, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 1LH

Caerffili

The Green Lady, Pontygwindy Road, CaerffiliCF83 3HF

Caerdydd

Park Vets, Sanatorium Road, Caerdydd CF11 8DG

Ania Polski Sklep, 144 Clifton Street, CaerdyddCF24 1LZ

Merthyr Tudful

Tom Motor Services, Gwalia Place, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 0AJ

Rhoddion

Edrychwch ar dudalennau’r safleoedd casglu hyn yn y cyfryngau cymdeithasol i gael y manylion diweddaraf pan fydd y casgliadau ar agor eto. Rydym wedi estyn allan at Polonia dla Ukrainy i gynnig pwyntiau cymorth a chasglu ychwanegol ar draws yr esgobaeth.

Ar ben pwyntiau casglu Polonia dla Ukrainy, mae dwy Ardal Weinidogaeth wrthi’n trefnu casgliadau ym Mhort Talbot (Canolfan St Paul's, Gerald St, SA12 6DQ) ac Aberdâr (Neuadd Gymunedol Sain Ffagan, Stryd Windsor, CF44 8LL).

Fel y gallwch ddychmygu, mae hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym, ac mae anghenion ffoaduriaid yn newid yn rheolaidd. Serch hynny, fel y mae hi ddydd Mercher 2 Mawrth, dyma'r anghenion pwysicaf ar hyn o bryd:

  1. Batris, tortshys a chanhwyllau
  2. Setiau radio siarad a symud, sy’n gweithio’n gywir
  3. Cynhyrchion mislif a chynhyrchion hylendid personol
  4. Menig a hetiau thermol, sanau cynnes etc – i gyd yn newydd yn ddelfrydol
  5. Poenladdwyr a chyflenwadau meddygol fel rhwymynnau (yn enwedig ar gyfer clwyfau a llosgiadau)
  6. Menig a diheintyddion tafladwy
  7. Cewynnau a bagiau cewynnau newydd

Sicrhewch fod pob eitem naill ai'n newydd neu mewn cyflwr da iawn.

Apêl Frys Cymorth Cristnogol

Mae Cymorth Cristnogol wedi lansio apêl frys i gefnogi'r hanner miliwn o bobl sydd wedi ffoi o Wcráin yn y dyddiau diwethaf. Maen nhw’n gweithio gyda sefydliadau yng Nghynghrair ACT (clymblaid ffydd fyd-eang) i gynnig cymorth i ffoaduriaid Wcráin sy'n dianc rhag y trais marwol yma. Hyd yn hyn, mae 28 tunnell o gyflenwadau bwyd a hanfodion achub bywyd eraill wedi'u dosbarthu i bobl ar ffiniau Wcráin.

Cymorth hirdymor i ffoaduriaid

Wrth i'r sefyllfa barhau i ddwysáu yn Wcráin, mae'n debygol y gwelwn ni fwy o bobl yn cael eu dadleoli yn Ewrop, gan gynnwys Cymru a'r Deyrnas Unedig. Fel y nodwyd yn ystod camau cychwynnol yr argyfwng yn Affganistan, mae'r Esgobaeth yn ymrwymo drwy ein strategaeth Cenhadaeth ac Allgymorth i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru o wneud Cymru'n genedl noddfa, gan sicrhau bod yr eglwys a'r gymdeithas yn unedig wrth wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod ymfudwyr, ffoaduriaid a'u teuluoedd yn gallu cyrraedd diogelwch yma yng Nghymru.

  1. Eglwysi Croeso

Fel rhan o'r ymrwymiad yma, mae’n huchelgais gennyn ni weld o leiaf un eglwys ym mhob Ardal Weinidogaeth wedi'i chofrestru fel Eglwys Groeso. Dyma eglwysi sydd wedi ymrwymo i groesawu ffoaduriaid yn weithredol, sy'n golygu, wrth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches symud o amgylch y Deyrnas Unedig ac i mewn i Gymru, ei bod yn hawdd iddyn nhw ddod o hyd i eglwys i'w croesawu i'r gymuned. Gall yr eglwysi hyn hefyd gymryd rhan yn y cynllun Blychau Croeso. Mae'r rhain yn flychau wedi'u llenwi â rhoddion bach yn ogystal â gwybodaeth am grwpiau a gwasanaethau lleol, sy'n cael eu danfon i gartrefi'r rhai sydd wedi cyrraedd yr ardal yn ddiweddar.

I gael rhagor o wybodaeth am Eglwysi Croeso

https://welcomechurches.org/

Cysylltwch â Christoph Auckland, Uwch-swyddog Allgymorth yr Esgobaeth i siarad am sut gall eich eglwys neu'ch ardal weinidogaeth chi gymryd rhan yng nghynllun Eglwysi Croeso

christophauckland@churchinwales.org.uk

07949 567 047

  1. Nawdd Cymuned

Mae Nawdd Cymuned yn rhaglen adsefydlu ffoaduriaid ledled y Deyrnas Unedig, lle mae pobl gyffredin yn dod at ei gilydd i noddi a chroesawu teuluoedd sy'n ffoaduriaid i'ch cymdogaeth, gan eu cefnogi ar ôl iddyn nhw gyrraedd a'u helpu i ymgartrefu'n gyflymach yn eu bywydau newydd.

Drwy'r Strategaeth Cenhadaeth ac Allgymorth, ac mewn partneriaeth â Dinasyddion Cymru, mae’n uchelgais gennym ddwyn ynghyd eglwysi ac ardaloedd gweinidogaeth i gynnal o leiaf un rhaglen Nawdd Cymuned ym mhob un o ardaloedd awdurdodau lleol yr esgobaeth – Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Bro Morgannwg, a Chaerdydd.

Rydym wrth ein bodd bod eglwys y Forwyn Fair, Butetown (rhan o Ardal Weinidogaeth De Caerdydd) a Phlwyf Pont-y-clun, Tal-y-garn a Llanhari (rhan o Ardal Weinidogaeth Llantrisant) yn braenaru’r tir gyda Nawdd Cymuned yn barod.

I gael rhagor wybodateh am Nawdd Cymuned, ewch i https://www.sponsorrefugees.org/

Cysylltwch â Christoph Auckland, Uwch-swyddog Allgymorth yr Esgobaeth os oes gennych ddiddordeb mewn ystyried Nawdd Cymuned yn eich eglwys neu'ch ardal weinidogaeth chi christophauckland@churchinwales.org.uk

07949 567 047

Ysgrifennu at eich Aelod Seneddol/Aelod o'r Senedd

Drwy siarad â'n gilydd, rydyn ni’n credu y gallwn ni ddefnyddio’n llais i sicrhau newid gwirioneddol ar lefel wleidyddol – boed dros faterion datganoledig yn y Senedd ynteu ledled y Deyrnas Unedig yn San Steffan.

Mae cyfyngiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i lawer o Wcreiniaid sydd â theulu ym Mhrydain ddod o hyd i ddiogelwch yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n amhosibl i'r rhai sydd heb deulu yma. Mae'n hanfodol bwysig bod y Swyddfa Gartref yn edrych eto ar ei dull o ymdrin â ffoaduriaid sy'n dianc rhag perygl eithafol yn Wcráin.

Nid yn unig hynny, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi'n cyflwyno deddfwriaeth ar ffurf y Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau a fydd yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai sy'n cael eu gorfodi i ffoi rhag perygl. Ni fydd ffoaduriaid sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig heblaw drwy un o'r cynlluniau a gymeradwywyd (fel y rhai sydd, mewn anobaith, wedi teithio yma ledled Ewrop) yn mynd i mewn i'r system nodded, ac yn hytrach yn wynebu gweld eu hachos yn cael ei drin fel un annigonol a’u hanfon yn ôl i berygl. Gan nad oes llwybr cyfreithiol ar hyn o bryd i ffoaduriaid o Wcráin i'r Deyrnas Unedig, byddai hyn yn berthnasol i unrhyw un o Wcráin sy'n chwilio am ddiogelwch yma heddiw. Mae llawer o'r farn bod hyn yn torri Confensiwn Ffoaduriaid 1951, ac mae'n bolisi y mae'r UNHCR wedi dweud y bydd yn “niweidio bywydau, yn anodd ei weithredu, ac yn tanseilio cydweithredu rhyngwladol ar faterion sy'n ymwneud â ffoaduriaid."

Ysgrifennwch at eich Aelod Seneddol a'ch Aelod o'r Senedd, gan eu hannog i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu a mwy o frys ar ffoaduriaid o Wcráin, a newid yr elfennau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau sy’n gwahaniaethu. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Aelod Seneddol a’ch Aelod o’r Senedd yma: https://www.writetothem.com/

Os hoffech gael cyngor a chefnogaeth ar eiriolaeth yn Esgobaeth Llandaf, neu gymorth i ysgrifennu at eich Aelod Seneddol neu’ch Aelod o'r Senedd, cysylltwch â Christoph Auckland, Uwch-swyddog Allgymorth yr Esgobaeth drwy christophauckland@churchinwales.org.uk