English
We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Bishop June and Bishop Karin signing a document
Yr Esgob Karin a'r Esgob June yn llofnodi cytundeb partneriaeth Uppsala a Llandaf

Llandaf ac Uppsala

Cyfarfu esgobion Llandaf ac Uppsala mewn Cynhadledd Porvoo a phenderfynu archwilio'r posibilrwydd o gysylltiad ffurfiol rhwng y ddwy esgobaeth. Mae Eglwysi Porvoo yn gasgliad o eglwysi Anglicanaidd a Lwtheraidd yn bennaf o Brydain, Sgandinafia, a'r Baltig. Sefydlwyd Cymundeb Porvoo ym 1992 gyda chymundeb llawn rhwng yr holl eglwysi. Eglwys Sweden oedd yr aelodau sefydlu, a daeth yr Eglwys yng Nghymru yn rhan o Gymundeb Porvoo ym 1995.

Arweiniodd hyn at lofnodi'r cytundeb cyntaf rhwng yr esgobaethau yn 2006. Adnewyddwyd y cytundeb yn 2026 yn ystod gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Llandaf.

Mae Llandaf ac Uppsala ill dau yn annog Ardaloedd Gweinidogaeth i feithrin cysylltiadau agosach â'i gilydd ac mae yna sawl cysylltiad cryf eisoes, gyda mwy yn cael eu meithrin drwy'r amser. Mae ymweliadau cyfnewid rhwng Ardaloedd Gweinidogaeth yn digwydd, yn ogystal â rhai rhwng swyddogion esgobaethol. Ar hyn o bryd mae'r esgobaeth yn archwilio cysylltiadau cerddorol yn ogystal â chysylltiadau rhwng canolfannau hyfforddiant diwinyddol ar gyfer gweinidogaeth yn Uppsala ac yn Sefydliad Padarn Sant.

Three men in a church in Sweden
Swyddogion esgobaethol yn ymweld ag Uppsala (2022)

Mae llawer i'w ddysgu oddi wrth ei gilydd, ac mae ymweliadau cyfnewid wrth wraidd y berthynas. Mae ymwelwyr yn gyfrifol am gost teithio, tra bod y gwesteiwyr yn gofalu am unrhyw gostau tra bod yr ymwelwyr gyda nhw. Gyda chyfnewidiadau Ardal Weinidogaeth, bydd yr ymwelwyr yn aros gydag aelodau'r eglwys yn yr eglwys sy'n eu croesawu. Bydd y rhai sy'n eu croesawu yn cludo eu hymwelwyr gan ddefnyddio ceir yn hytrach na llogi minibws gyda'r gost ychwanegol y byddai hynny'n ei olygu. Mae rhoi sylw i fanylion fel hyn yn bwysig wrth ystyried cysylltu â phlwyf. Mae cyfeillgarwch agos wedi'i ffurfio trwy'r cysylltiadau hyn a llawer o fendithion wedi'u derbyn.

Four men watching a lecture
Swyddogion esgobaethol yn ymweld ag eiconograffydd yn Uppsala

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ffurfio cysylltiad â phlwyf arall, cysylltwch â’r Canon Martyn Davies, Swyddog Partneriaethau Byd-eang Esgobaeth Llandaf ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Dwyrain y Dyffryn. Mae’r Canon Martyn hefyd yn hapus i ddod i siarad ag Ardaloedd Gweinidogaeth am y Cytundeb Partneriaeth rhwng ein dwy esgobaeth.

martyndavies@churchinwales.org.uk

(01446) 760498