Ni ddylid cytuno ar unrhyw geisiadau ffilmio heb hysbysu Pennaeth Cyfathrebu’r Esgobaeth a’r Tîm Taleithiol.
Ar gyfer cwmnïau cynhyrchu
- Cyn cwblhau ein ffurflen ymholiad ffilmio, nodwch yr eglwys yr hoffech weithio gyda hi a siaradwch yn uniongyrchol â'r clerig lleol i gytuno ar y manylion a sicrhau bod y plwyf yn gyfforddus â'r prosiect. Unwaith y bydd cymeradwyaeth y plwyf wedi'i chadarnhau, gallwch gyflwyno ffurflen ymholiad.
Ar gyfer y cyfryngau
- Nid oes angen trwydded ffilmio ar gyfer sylw newyddion na'r cyfryngau. Cysylltwch â communications@cinw.org.uk i gael arweiniad ac i roi gwybod i ni am eich cynlluniau.
I glerigwyr
- Os cewch ymholiad gan gwmni cynhyrchu, trafodwch y cynnig gyda nhw a Phennaeth Cyfathrebu’r Esgobaeth yn gyntaf. Os ydych chi’n fodlon â’r cynnwys a manylion y ffilmio, cysylltwch â’r Tîm Taleithiol i drafod y cais yn fanylach.
Oes gen chi gwestiwn?
Os hoffech siarad â ni am eich gofynion cyn cwblhau ffurflen ymholiad ffilmio, gallwch:
Ffoniwch ni: 029 2034 8200
Anfonwch e-bost atom: filming@cinw.org.uk