Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Sant Nicolas yn Dathlu Arolygiad Disglair yn Amlygu Creadigrwydd a Chynhwysiant
Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Nicolas yn falch iawn o rannu canlyniad ei harolygiad diweddar, sy'n tynnu sylw at gymuned gynnes, gynhwysol a meithringar lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Canmolodd yr arolygwyr arweinyddiaeth gref yr ysgol a'i gweledigaeth glir, dan arweiniad y pennaeth, sy'n meithrin diwylliant cadarnhaol o ddisgwyliadau uchel i ddisgyblion a staff.
Dywedodd Elizabeth Jones, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morganwg:
“Hoffwn longyfarch Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Sant Nicolas am ei chanlyniad rhagorol gan Estyn. Mae hyn yn dyst i waith caled y staff a’r disgyblion a gefnogir gan rieni a gofalwyr.”

Un o’r prif gryfderau a nodwyd yw cwricwlwm cyfoethog a diddorol yr ysgol, sy’n darparu profiadau dysgu creadigol ac ystyrlon sy’n datblygu gwybodaeth, sgiliau ac annibyniaeth y disgyblion. Anogir disgyblion i feddwl yn ddychmygus, gweithio ar y cyd a dyfalbarhau. Tynnwyd sylw hefyd at greadigrwydd, cymhwysedd digidol a dealltwriaeth fathemategol fel cryfderau.
Ychwanegodd Clare Werrett, Pennaeth Addysg Esgobaethau Llandaf a Mynwy:
“Mae’r adroddiad rhagorol hwn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad staff Ysgol Sant Nicolas, cyfoeth eu cwricwlwm a’r amrywiaeth wych o brofiadau dysgu y mae eu holl ddisgyblion yn eu mwynhau. Llongyfarchiadau mawr i’r llywodraethwyr, y staff a chymuned yr ysgol gyfan.”

Mae'r adroddiad hefyd yn canmol ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol. Mae disgyblion yn dysgu am amrywiaeth, yn herio stereoteipiau ac yn datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth a pherthyn. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn darparu cefnogaeth effeithiol, yn enwedig i'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau amgylchedd cynhwysol lle mae dysgwyr yn ffynnu. Cydnabuwyd ymddygiad fel un rhagorol.
Sylwodd yr Esgob Mary Stallard: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn dyst i waith caled cyson cymuned yr ysgol gyfan. Rydym mor falch o Ysgol Sant Nicolas a'n holl ysgolion eglwysig, sydd wedi ymrwymo i wneud gwerthoedd Cristnogol yn realiti byw."
Dywedodd y Pennaeth Miss Evans: “Rydym wrth ein bodd gyda'r gydnabyddiaeth gadarnhaol hon. Mae'n adlewyrchu ymroddiad ein disgyblion, staff, llywodraethwyr a theuluoedd, a'n hymrwymiad cyffredin i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu ac yn llwyddo.”