Mae Esgob Llandaf yn edrych i benodi Offeiriad i fod yn rhan o dîm o glerigwyr cyflogedig a hunangynhaliol sy'n gwasanaethu ystod amrywiol o gymunedau, ar gyrion Prifddinas Cymru.
Gan ymestyn o ardaloedd cosmopolitaidd Canton, i ymylon ffiniau'r ddinas yn Ely, mae'r Ardal Weinidogaeth hon yn cynnwys rhai o'r cymunedau cyfoethocaf a thlotaf yng Nghymru.
Fodd bynnag, i'r Eglwys yn y rhan hon o'r Esgobaeth, nid her i'w hwynebu yw'r amrywiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol hon, ond bendith i'w dathlu mewn bywyd Cristnogol cyffredin, a rennir.
Rydym yn chwilio am offeiriad sydd â brwdfrydedd ac egni, sy'n caru Duw, yn caru pobl ac yn caru gweinidogaeth; offeiriad sydd eisiau bod yn rhan o dîm, mewn perthynas gydfuddiannol o roi a derbyn; offeiriad a fydd yn mwynhau gweithio ar draws Ardal y Weinidogaeth ond a fydd hefyd â chyfrifoldeb penodol am Eglwys yr Atgyfodiad, yn Nhrelái, Caerdydd.
Mae proffil llawn a ffurflen gais ar gael yn https://llandaff.churchinwales.org.uk/en/about-us/vacancies/
Am sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â'r Hybarch Mark Preece, Archddiacon Margam Archdeacon.margam@churchinwales.org.uk 07989 587 529
Dyddiad cau: 18fed Medi 2026
Cyfweliadau i'w cynnal: 23 Hydref 2026
