Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bryncoch yng Nghastell-nedd Profi eu Cymwysterau Gwyrdd
Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bryncoch wedi ennill Gwobr Baner Platinwm fawreddog am y pumed tro, diolch i'r rhaglen addysg amgylcheddol, Eco-Ysgolion.
Mae Eco-Ysgolion yn rhaglen ryngwladol a redir yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r rhaglen Eco-Ysgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i fod yn arweinwyr newid yn eu cymuned, gan eu helpu i ddysgu am fyw'n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang wrth roi'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud newidiadau a fydd o fudd i'w hysgol, yr amgylchedd lleol a'r gymuned ehangach, megis lleihau gwastraff, defnydd ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw'n iach a phroblemau sbwriel.
Fel rhan o'u hasesiad Platinwm Eco-Ysgolion, dangosodd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bryncoch y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd ar draws cymuned yr ysgol.
Mae'n amlwg bod disgyblion yn ymfalchïo'n fawr mewn gofalu am eu hamgylchedd ac yn mwynhau eu cyfranogiad. Mae'r fenter bagiau baw cŵn yn enghraifft ardderchog arall o ymrwymiad yr ysgol i'r gymuned leol. Mae'r mentrau hyn yn dangos ymrwymiad cryf i gyfrifoldeb amgylcheddol, arweinyddiaeth disgyblion ac ymgysylltu cymunedol.
Dywedodd y Pennaeth, Marc Sinnett: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill Gwobr Platinwm Eco-Ysgolion.
Mae’r gydnabyddiaeth fawreddog hon yn adlewyrchu ymroddiad, brwdfrydedd a gwaith caled ein disgyblion, staff, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol wrth hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae ein Eco-Bwyllgor wedi dangos arweinyddiaeth ragorol, gan ysbrydoli newid cadarnhaol o fewn yr ysgol a thu hwnt. Rydym yn hynod falch o’r mentrau y mae ein disgyblion wedi’u harwain, o ofalu am diroedd ein hysgol a’n perllan i gasglu sbwriel a phrosiectau cymunedol.
Mae’r wobr hon yn dathlu ein hymrwymiad cyffredin i ddiogelu’r amgylchedd a sicrhau bod ein plant yn datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd sydd eu hangen i ddod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol.”