English

Mae Esgob Mary yn falch iawn i gyhoeddi mai'r Parchedig Anne-Marie Renshaw fydd Archddiacon Morgannwg.

Ar hyn o bryd, Anne-Marie yw Rheithor Tîm gweinidogaeth Thurstable a Winstree yn Esgobaeth Chelmsford.

Mae ganddi hanes helaeth o weinidogaeth fugeiliol ymgysylltiedig mewn timau mawr a phrofiad mewn ystod eang o fywyd eglwysig a chymunedol. Mae Anne-Marie yn edrych ymlaen at ddod i Gymru a bod yn agosach at ei mam, sy'n byw ym Mhowys.

Bydd hi'n symud i'r esgobaeth i ddechrau yn ei rôl newydd ym mis Medi ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno hi a'i theulu yn fwy cyflawn i'r esgobaeth.