Y Parchedig Ganon Tim Llewellyn Jones, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth a Disgyblaeth, wedi cael ei benodi'n Offeiriad â Chyfrifoldeb Mistley gyda Manningtree a Bradfield, a Churad â Chyfrifoldeb Lawford St Mary, yn Esgobaeth Chelmsford yn Eglwys Loegr.
Disgwylir i Tim ddechrau yn ei swydd newydd ddiwedd mis Tachwedd 2026. Mae'r Esgob Mary eisiau diolch o galon i Tim am ei waith caled a gofalgar yn Esgobaeth Llandaf.
Mae hi'n ysgrifennu, “Mae Tim wedi arwain digwyddiadau hyfforddi gwych ar gyfer ein harweinwyr lleyg a'n clerigwyr, gan gynnwys ein hysgol glerigwyr yn Efrog a rhaglen lawn o CMD.
Y tu ôl i'r llenni mae Tim wedi bod yn ymwneud â llawer iawn o waith cymorth bugeiliol.
Byddwn yn colli ei gyfraniad llawen a chreadigol at arweinyddiaeth weinidogaethol yn Llandaf ac rydym yn gweddïo drosto ef a'i deulu yn yr amser hwn o newid.”



