Dydd Mwsig Cymru / Welsh Language Music Day
Revd Dyfrig Lloyd shares us his top five picks of Welsh church songs for today's Welsh Language Music Day:
Mae gan Gymru draddodiad hir o gyfansoddi a chanu emynau. Daw gyd o’r tonau emynau gorau o Gymru. Dwi’n un sy’n mwyhau canu cynulleidfaol, ac mae’r cyfyngiadau sy’n gwahardd canu torfol yn parhau’n anodd. Dwi’n gweld eisiau canu gyda eraill. Edrychaf ymlaen i ganu yn yr eglwys pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny eto.
Dyma fy mhump hoff emyn ar hyn o bryd. Maen nhw’n newid yn aml.
- “Tyrd atom ni” ar yr emyn dôn Berwyn
2. Tydi a roddaist (Dwi’n hoffi “Amen” da ar ddiwedd emyn)
3. “Gwyn a gwridog, hawddgar iawn” (Geiriau William Williams Pantycelyn) i’r emyn dôn Llanfair. Mae’r briodas rhwng y geiriau a’r dôn yn berffaith
4. “O Iesu mawr, rho dy anial bur” i’r emyn dôn Llef. Mae gennyf hoffter o emynau yn y lleddf!
5. "Gwna fi fel pren planedig” (Geiriau gan Ann Griffiths), i’r emyn dôn Clod.